Ewch i’r prif gynnwys

Mae Shanghai Ranking wedi rhestru un o Ysgolion y Brifysgol yn un o’r canolfannau ymchwil mwyaf blaenllaw

18 Awst 2022

Shanghai Ranking logo
Mae'r Shanghai Ranking wedi cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o'r canolfannau ymchwil cyfathrebu uchaf yn y byd.

Mae Shanghai Ranking wedi cydnabod yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn un o'r can canolfannau ymchwil gorau yn y byd ym maes cyfathrebu yn ei Restr Fyd-eang o Bynciau Academaidd (GRAS).

Mae'r rhestr yn defnyddio ystod o ddangosyddion gwrthrychol yn ogystal â data trydydd parti i fesur perfformiad prifysgolion byd-eang gan gynnwys allbynnau’r ymchwil, dylanwad yr ymchwil, cydweithio rhyngwladol, safon yr ymchwil yn ogystal â gwobrau academaidd rhyngwladol.

Mae'r canlyniad yn pwysleisio enw da'r ysgol yn rhyngwladol tra ei fod hefyd yn atgyfnerthu ei safle, sef yr 2il ysgol orau yn y DU am safon ei hymchwil ym maes cyfathrebu, diwylliant a’r cyfryngau, yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF).

Dyma a ddywedodd y Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil, yr Athro Jenny Kitzinger, "Mae'r canlyniad hwn yn pwysleisio ein gallu i sicrhau ymchwil o'r radd flaenaf yn gyson.

"Mae ein gwaith yn hynod bwysig i fywyd beunyddiol yr ysgol gan mai ymchwil sy’n gyrru llawer o'r addysgu ar draws ein graddau israddedig ac ôl-raddedig."

Mae’r effaith gadarnhaol sydd gan ymchwil yr ysgol i’w gweld mewn tair astudiaeth achos sy'n pwysleisio gallu'r ysgol i lywio ac arwain ar draws ystod o ddiwydiannau cymdeithasol, meddygol a’r cyfryngau.

stock shot camera

Adroddiadau gohebwyr ar ddatganoli: rhoi cyngor

Mae ein hacademyddion yn helpu newyddiadurwyr i wneud synnwyr o'r gwahanol reolau COVID-19 sydd mewn grym ledled y DU.

Artwork depicting a figure in blue set against a red backdrop

Gwella’r penderfynu dros gleifion sy’n anymwybodol ers amser maith

Mae ein hymchwil wedi cael effaith bwysig ar gynrychiolaeth, a chefnogaeth a roddwyd iddynt, y rhai mewn anhwylderau hir o ymwybyddiaeth.

Pile of newspapers next to a laptop

Trechu diffyg democrataidd newyddion lleol

Rydym wedi gwella cynaladwyedd newyddion cymunedol trwy lansio'r corff ffurfiol cyntaf i eiriol ar ran y sector.

Ychwanegodd yr Athro Kitzinger, "Mae effaith ein hymchwil hefyd yn golygu ein bod yn gallu cyfrannu'n helaeth at genhadaeth ddinesig y brifysgol drwy ymateb i rai o'r heriau mawr sy'n wynebu’r gymdeithas yn ogystal â gwneud gwaith er lles y cyhoedd."

Rhannu’r stori hon

Astudiwch gyda ni, ni yw canolfan ymchwil uchaf Cymru - mewn unrhyw faes pwnc.