Ewch i’r prif gynnwys

Yn ail yn y DU am ansawdd ymchwil

12 Mai 2022

REF Logo

Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi dod yn 2il yn y DU am ansawdd ei hymchwil ym maes astudiaethau cyfathrebu, diwylliant a'r cyfryngau yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Ar ôl dod yn 2il yn y REF diwethaf yn 2014 hefyd, mae’r Ysgol yn dal i fod yn ganolfan ymchwil sy’n arwain y byd.

Mae’r Ysgol hefyd wedi sicrhau’r sgôr uchaf bosibl ar gyfer ansawdd ei hamgylchedd ymchwil.

Ystyriodd panel asesu'r REF ystod eang o ymchwil gyhoeddedig sy’n rhychwantu gwaith ar newyddiaduraeth a democratiaeth, goblygiadau technolegau sy'n datblygu ac arloesedd yn y diwydiant creadigol.

Llwyddodd yr ysgol i gynnal ei safle yn ganolfan ymchwil cyfathrebu fyd-enwog ac ar ben hynny mae wedi dyblu nifer y staff a gyflwynwyd i'w hasesu mwy na dwywaith. Mae'r canlyniadau hefyd yn golygu mai’r ysgol yw’r ganolfan ymchwil uchaf ei safle yng Nghymru ar gyfer unrhyw faes pwnc.

Dyma a ddywedodd Pennaeth yr Ysgol, Matt Walsh, “Rwy wrth fy modd bod rhagoriaeth ein hymchwil a chryfder ein diwylliant ymchwil a'n heffaith wedi cael eu cydnabod unwaith eto.”

“Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn unigryw, gan ei bod yn cyfuno diwylliant dysgu creadigol a chefnogol sy'n creu ymchwil o'r radd flaenaf sy’n arwain at ragoriaeth o ran addysgu israddedig ac ôl-raddedig. Does unman arall yn debyg iddo. “

Diwylliant ymchwil

Yn sgîl mentrau ymchwil newydd megis y Labordy Cyfiawnder Data, a ddatblygwyd gan staff academaidd a benodwyd yn ddiweddar, dangoswyd i'r panel sut beth yw diwylliant cefnogol a hirsefydlog yr ysgol o ran ymchwil ac amlygwyd ymrwymiad i staff wireddu eu gweledigaeth yn arweinwyr ymchwil.

Dywedodd y Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil, yr Athro Jenny Kitzinger, “Rydyn ni wrth ein boddau yn cael y sgôr uchaf bosibl ar gyfer diwylliant ein hymchwil.”

“Mae hyn yn dangos bod ein llwyddiant ers amser maith yn deillio o ddiwylliant sy’n gefnogol ac yn gynhwysol a chanlyniad y diwylliant hwn yw gallu ein cydweithwyr i greu ymchwil sy’n wreiddiol, yn arwyddocaol ac yn drylwyr.”

Allbwn yr ymchwil

Aseswyd mwy na thrigain o gyhoeddiadau neu allbwn ymchwil ar wahân gan banel o ysgolheigion cyfathrebu ac astudiaethau'r cyfryngau mwyaf blaenllaw'r DU, a’r canlyniad yw’r ffaith bod yr ysgol wedi dod yn drydydd am safon ei hallbynnau.

Dyma a ddywedodd y Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil, yr Athro Stephen Cushion, “Rydyn ni’n hynod falch o’n cydweithwyr yn sgîl ystod a dyfnder eu hymchwil ym maes newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant. Mae'r ffaith bod 95% o'n hallbwn ymchwil wedi’i ddosbarthu naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol yn dangos cryfder yr ysgol ar ei hyd”.

Effaith ymchwil

Mae'r ysgol wedi cyfrannu'n helaeth at genhadaeth sifig y Brifysgol drwy ymateb i rai o'r heriau mawr y mae’r gymdeithas yn eu hwynebu ac ymgymryd â gwaith er budd y cyhoedd. Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi arwain at safle yn y pump uchaf yn y DU o ran yr effaith ar gymunedau, byd polisi a diwylliant.

Dyma a ddywedodd Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil y Brifysgol, yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, “Gan gynnwys gwella'r broses o wneud penderfyniadau dros gleifion mewn cyflyrau diymateb a lled-ymwybodol, gweithio gyda chyfryngau cymunedol, creu newyddiaduraeth gynaliadwy, yn ogystal â darlledwyr cenedlaethol a rheoleiddwyr cyfryngau i godi safonau ym maes adrodd newyddion, rydyn ni’n hynod o falch bod effaith ymchwil yr ysgol wedi cael ei chydnabod.”

Ystyriwyd bod wyth deg tri y cant o ymchwil yr ysgol yn rhagorol o ran ei chyrhaeddiad a'i harwyddocâd.

Dewch i wybod rhagor

Dewch i wybod rhagor am ganlyniadau cyffredinol Prifysgol Caerdydd a chanlyniadau'r ysgol yn ei huned asesu - Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a'r Cyfryngau, Llyfrgelloedd a Rheoli Gwybodaeth.

REF yw’r system a ddefnyddir i asesu safon ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 2014.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.