Ewch i’r prif gynnwys

Gwella’r penderfynu dros gleifion sy’n anymwybodol ers amser maith

O fynegiant, trwy gelf a drama i ddyfarniad nodedig y Goruchaf Lys, mae ymchwil yr Athro Jenny Kitzinger a’r Athro Celia Kitzinger wedi effeithio’n fawr ar faterion cynrychioli a chynorthwyo’r rhai sy’n gorwedd yn anymwybodol ers tro.

Artwork depicting a figure in blue set against a red backdrop

Cynnal ymchwil trwy weithredu

Mae amcangyfrif bod hyd at 64,000 o gleifion yn cael eu cadw mewn cyflwr anymwybodol yn y deyrnas hon. Nod ymchwil y ddau athro o Brifysgol Caerdydd oedd deall rhagor am brosesau penderfynu dros gleifion o’r fath yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i’w teuluoedd.

Trwy drafod hynny gyda’r teuluoedd, dadansoddi profiad perthnasau, archwilio adroddiadau yn y wasg a holi clinigwyr a chyfreithwyr, gallen nhw nodi diffyg gwybodaeth am gyflyrau lle mae claf yn anymwybodol neu’n byw heb fawr ddim ymwybyddiaeth ac adnabod problemau yn y fframwaith meddygol a chyfreithiol ynghylch penderfynu er lles cleifion o’r fath.

Cynorthwyo, cynrychioli a diwygio

Mae Jenny a Celia Kitzinger wedi’u canmol am effaith fawr eu gwaith ar drin a thrafod y rhai ac arnyn nhw anhwylderau ymwybyddiaeth ers amser maith.

Ar ben hynny, mae’u hymchwil wedi helpu i sbarduno’r ymgyrchu a’r gweithredu sydd wedi arwain at gynorthwyo teuluoedd yn well, deall a chynrychioli gofal diwedd oes yn well yn y cyfryngau a newid arferion cyfreithiol a meddygol. Mae modd crynhoi pedair prif agwedd eu gwaith fel a ganlyn:

  • Cynrychioli diwylliannol newydd: trwy gydweithio yn y celfyddydau, perfformiadau theatr, straeon digidol, cyfweliadau a sioeau radio pwrpasol, mae’r ymchwil wedi helpu i ddeall paratoadau ar gyfer diwedd oes a’r goblygiadau meddygol a chyfreithiol yn well.
  • Cymorth i deuluoedd: cafodd yr ymchwil ei throi'n adnodd hygyrch i deuluoedd ar wefan Healthtalk. Mae proffesiynolion blaenllaw o’r farn mai’r adnodd hwnnw yw’r un mwyaf cynhwysfawr ynglŷn â’r maes, ac mae wedi ennill gwobrau am ei esboniadau o faterion moesegol a’i effaith ar farn y cyhoedd.
  • Diwygio arferion cyfreithiol: mae’r ymchwil wedi llywio eirioli dros deuluoedd a chyfraith achosion, a fyddai dyfarniad pwysig y Goruchaf Lys ddim wedi digwydd heb yr ymchwil yn ôl arbenigwyr.
  • Gwella arferion clinigol: mae’r ymchwil wedi llywio polisïau ac mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr a Chymdeithas Feddygol Prydain fel ei gilydd wedi’i defnyddio i lunio canllawiau a deunyddiau hyfforddi newydd i broffesiynolion.

Mae ymchwil Caerdydd wedi bod yn bwysig i gleifion anymwybodol a’r rhai fawr ddim eu hymwybyddiaeth ond, ar ben hynny, mae wedi bod yn bwysig i amrywiaeth helaeth o gleifion eraill achos bod effaith uniongyrchol yr ymchwil trwy benderfyniadau llysoedd yn arbennig o arwyddocaol ac eang y tu hwnt i’r nod gwreiddiol.
Dr John Chisholm Cadeirydd Gweithgor Cymdeithas Feddygol Prydain dros Faeth a Hydradu trwy Gymorth Clinigol

Ystadegau allweddol

  • Mae adnodd ‘healthtalk’ a luniodd yr ymchwilwyr ar gyfer y we wedi’i ddefnyddio 420,000 o weithiau gan 42,700 o bobl o bob cwr o’r byd ers 2014.
  • Mae teuluoedd wedi’u galluogi i drin a thrafod gofal eu perthnasau ac eirioli ar eu rhan trwy gyfryngau meddygol a chyfreithiol fel ei gilydd, gan arwain at wrandawiadau gerbron llysoedd a llywio datblygiadau cyfreithiol o bwys.
  • Ar ôl cyfweliad Jenny Kitzinger ar Radio 4, cynyddodd y galwadau ffôn o 400% ac edrychodd darllenwyr ar wefan Compassion in Dying 10,000 o weithiau.
  • Mae 100,000 o bobl wedi gwrando ar raglen mae Jenny Kitzinger yn ei chynhyrchu ac yn ei chyflwyno ar y cyd dros BBC Radio 3, Coma Sounds.
  • Mae dros 1800 o broffesiynolion clinigol wedi dod i ddarlithoedd a hyfforddiant i ddysgu a deall rhagor am driniaeth ar gyfer cleifion sy’n anymwybodol ers amser maith.

Mae arbenigedd Jenny ynghylch ystod eang o brofiadau teuluoedd wedi rhoi cyfle i drafod materion anodd ac, yn sgîl Coma Songs, mae ffyrdd newydd o feddwl wedi agor i’n cynulleidfaoedd ynglŷn ag ystyr bod yn anymwybodol neu fod heb fawr ddim ymwybyddiaeth... gan gyd-destunoli rhamant Hollywood ac ystrydebau’r cyfryngau am y cyflyrau hynny, sôn am deithiau teuluoedd a thrafod y cyd-destunau cymdeithasol, clinigol a chyfreithiol.
Llinos Jones Cyd-gynhyrchydd Coma Songs, BBC Radio 3