Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil ac addysgu yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol

28 Gorffennaf 2022

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn archwilio effaith eu hymchwil a’u haddysgu ar fywyd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022.

Bydd digwyddiadau yn edrych ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys hawliau plant, gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, datblygiadau mewn meddygaeth, yr iaith Gymraeg a hanes.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae trafodaeth gyda’r Athro Sally Holland, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, a fydd yn myfyrio ar ei phrofiadau’n Gomisiynydd Plant Cymru, yn ogystal ag effaith y pandemig ar bobl ifanc yng Nghymru. Bydd hefyd yn sôn am ei thaith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a’i chred y dylai pob arweinydd cyhoeddus cenedlaethol ddysgu’r iaith os nad ydyn nhw eisoes yn ddwyieithog. (Awst 3 Pabell Cymdeithasau 1)

Mewn sgwrs arall, bydd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn defnyddio data o Astudiaeth Etholiadau Cymru i egluro’r rhesymau sylfaenol dros lwyddiant rhyfeddol Llafur, 100 mlynedd ar ôl i’r blaid ennill ei hetholiad cenedlaethol cyntaf yng Nghymru. (Awst 4 Pabell Cymdeithasau 2)

Ac mewn sesiwn a gynhelir gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol, bydd y newyddiadurwyr Branwen Thomas (ITV), Delyth Isaac (BBC) a Geraint Evans (S4C) yn trafod dyfodol newyddion yng Nghymru. (Awst 4 Pabell Prifysgol Caerdydd)

Bydd gwyddoniaeth yn cael sylw amlwg, gyda chyfle i ddysgu rhagor am brosiect arloesol sy’n defnyddio technoleg MRI er mwyn olrhain symudiad y tafod a rhannau eraill o’r llwybr lleisiol pan gynhyrchir seiniau Cymraeg. Bydd y sgwrs yn ystyried sut y gallai’r canfyddiadau helpu dysgwyr Cymraeg ag anawsterau ynganu penodol. (Awst 1 Pabell Prifysgol Caerdydd)

Bydd digonedd o weithgareddau ymarferol yn digwydd yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd, yn archwilio effaith microblastigau ar yr amgylchedd, yn ogystal â datblygiadau ym maes meddyginiaeth, a DNA.

Ychwanegodd Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: “Gyda rhaglen mor gryf o gyflwyniadau a digwyddiadau, mae’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, yr un wyneb yn wyneb gyntaf ers cyn Cofid, yn argoeli’nn well nag erioed. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant Cymru ac mae ein hacademyddion a staff gwasanaethau proffesiynol yn awyddus i arddangos eu hymchwil a’u harbenigedd i’r cyhoedd. Mae myfyrwyr hefyd wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a bydd llawer ohonynt yn ymuno â ni i rannu eu profiadau o astudio gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Meddai’r Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych ymlaen yn fawr at ailgysylltu ag eisteddfodwyr ar y maes. Mae ein digwyddiadau yn arddangos yr ymchwil yr ydym yn ei chynnal ar draws ein pynciau - ymchwil sydd wedi’i ffocysu ar Gymru ac sy’n newid bywydau. Trwy gyfrwng arddangosiadau, cyflwyniadau a naratifau atyniadol, mae angen i ymchwil gyrraedd ei chynulleidfaoedd a'r rhai fydd yn elwa ohoni, a bydd Tregaron yn ganolbwynt llawn bwrlwm i'r ymgysylltiad hwnnw."

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Mae'r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Dr David Callander o Ysgol y Gymraeg yn rhoi blas o rôl Myrddin mewn barddoniaeth Gymraeg. (Gorffennaf 30 Pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Deon y Gymraeg Dr Huw Williams yn trafod y ffigwr hanesyddol Henry Richard, o’i blentyndod yn Nhregaron i’w yrfa’n ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch yn Llundain (Gorffennaf 30 Pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro Arwyn T Jones o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd yn trafod sut mae technolegau microsgopeg diweddar wedi galluogi iddo weld y tu mewn i’n celloedd. (Gorffennaf 30, Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg)
  • Dr Elen Ifan o Ysgol y Gymraeg yn archwilio arwyddocâd cyfieithu i'r Eisteddfod Genedlaethol yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. (Awst 4 Pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Bydd Adam Pierce, Siôn Jones ac Alys Jones o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn sôn am yr adnodd addysgol ar-lein – Yr Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol. (Gwener 5 Awst, Pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Bydd Dr Siôn Jones yn myfyrio ar ymchwil i brofiadau myfyrwyr a darlithwyr o ran addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Gwyddeleg ym mhrifysgolion Cymru ac Iwerddon. (Dydd Gwener 5 Awst, Pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Bydd Dr Laura Arman yn datgelu rhai o ganfyddiadau Astudiaeth Aml-Garfan WISERD 2021: arolwg o farn disgyblion ysgolion uwchradd o bob rhan o Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. (Sadwrn 6 Awst, Pabell Prifysgol Caerdydd)

Am raglen lawn Prifysgol Caerdydd cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon