Dathliadau graddio ar gyfer myfyriwr ffiseg 'eithriadol'
21 Gorffennaf 2022
Bydd Josh Colclough yn graddio o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth eleni, ac mae wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyliad.
Aeth prosiect ymchwil israddedig Josh y tu hwnt i'r lefel a ddisgwylid, gan ddenu canmoliaeth gan academyddion blaenllaw ledled y DU. Bu’r gwaith hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer darn o gelfyddyd.
O dan oruchwyliaeth Dr Felix Flicker, dyfarnwyd Gwobr yr Ysgol am Brosiect Ffiseg Eithriadol i waith arloesol Josh; gwaith oedd yn dangos rhagoriaeth ym mhob maes a aseswyd ac sy’n creu effaith sylweddol ac amlwg y tu hwnt i'r Ysgol.
Arweiniodd prosiect Josh at greu darn o gôd cyfrifiadurol y gellir ei ddefnyddio bellach i ddylunio cwasi-grisialau 3D.
Er bod y rhan fwyaf o grisialau wedi’u creu o drefniant tri dimensiwn o atomau sy'n ailadrodd mewn patrwm trefnus, mae cwasi-grisialau’n ymddwyn yn wahanol. Mae ganddynt batrwm trefnus, ond nid yw'r patrwm hwnnw byth yn ailadrodd ei hun yn union.
Mae gan gwasi-grisialau briodweddau electronig, optegol a mecanyddol unigryw ac felly maent wedi’u defnyddio mewn nifer o gymwysiadau newydd a diddorol, o badellau ffrio nad yw bwyd yn glynu iddynt, i nodwyddau llawfeddygol a llafnau rasel.
Mae Josh yn disgrifio ei gôd fel 'generadur creu teils ystafell ymolchi' sydd nid yn unig yn gosod y teils mewn strwythur gwastad ar y llawr, ond hefyd mewn unrhyw gyfeiriad a dimensiwn yr hoffech.
"Mae'r newydd-deb yn y ffaith y gellir ei ddefnyddio i wneud nifer di-derfyn o wahanol strwythurau, mewn gwahanol ddimensiynau arbennig, i gyd â'r un dull. Yn y gorffennol, roedd yn rhaid creu codau unigol i gynhyrchu strwythurau 3D nad ydynt yn ailadrodd." esbonia Josh.
Dywedodd Dr Sam Ladak, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Hyd yma, dim ond systemau cwasi-grisialau 2D y bu’n bosib eu dylunio’n hawdd, yn bennaf am fod diffyg o ran llenyddiaeth ar gyfer creu'r cymheiriaid 3D mwy cymhleth. Mae gwaith Josh yn datrys y broblem hon yn effeithiol.
"Bydd gwaith o'r fath yn unigryw yn rhyngwladol a bydd ei ganlyniadau rhagarweiniol hefyd yn cael eu defnyddio mewn grantiau EPSRC sy’n ymwneud â’r pwnc yn y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Ronan McGrath, o'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Lerpwl, fod safon a dyfnder gwaith Josh yn "eithriadol ar gyfer prosiect israddedig".
Dywed Josh y gallai ei ymchwil fod yn ddefnyddiol, yn arbennig wrth ddylunio a chreu catalyddion, sy'n cael eu defnyddio gan nifer o ddiwydiannau i gyflymu adweithiau cemegol.
"Gall gwyddonwyr bellach gynhyrchu’n hawdd unrhyw strwythur yr hoffent ei gael, ac yna defnyddio hynny yn eu model ar gyfer dyluniad catalydd i weld sut y gallai'r catalydd berfformio," esbonia Josh.
"Mae catalyddion yn rhan enfawr o economi'r byd, ac felly byddai gwella'r catalyddion hyn yn cael effaith crychdonni o ran gwella prosesau diwydiannol mawr, cynhyrchu bwyd, a lleihau llygryddion."
Gan fynd â'r prosiect gam ymhellach, rhannodd Josh ei gôd cyfrifiadurol gyda Liam Taylor-West, artist preswyl yn yr Ysgol Fathemateg ym Mhrifysgol Bryste.
Defnyddiodd Liam y côd i greu dwy system deils cydraniad-uchel (high resolution) penodol a fu’n rhan o arddangosfa gelf a gynhaliwyd ddiwedd Ionawr 2022 ym Mhrifysgol Bryste ac a arddangoswyd mewn digwyddiad arbennig gan y Brifysgol Agored i anrhydeddu Uwe Grimm, un o arloeswyr cynnar teils anghyfnodol.
Esboniodd Liam fod y gweithiau celf wedi atynnu "llawer o sylw cadarnhaol" gan gynnwys "cynigion i'w prynu".
Bydd Josh yn un o filoedd o raddedigion yr wythnos hon a fydd wedi elwa ar ddull addysgu a dysgu sy'n cael ei yrru gan ymchwil, Prifysgol Caerdydd.
Mae astudio mewn amgylchedd sy'n gyfoethog o ran ymchwil yn golygu bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ysgolheigion sy'n gweithio ar ffiniau eithaf gwybodaeth yn eu disgyblaethau, ac mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol ac mae’n eu paratoi ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus.
Dywedodd Dr Richard Lewis, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Rwyf bob amser yn falch iawn o weld myfyrwyr yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn rhagori yn eu prosiectau ymchwil. Mae cyflawniadau Josh yn wirioneddol eithriadol ac yn gwbl haeddiannol o'r gydnabyddiaeth hon.
"Mae'n amlwg bod ganddo yrfa ddisglair o'i flaen ac rwy'n dymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol."
Yn ddiweddar, mae Josh wedi ymgymryd â rôl yn y Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg yn Beiriannydd Meddalwedd Gwyddonol Sylfaenol mewn cymhathu data, lle mae'n gweithio ar gôd cyfrifiadurol i ddiweddaru modelau tywydd gyda data ffres a ddaw o arsylwadau.
"Roedd fy mhrosiect gyda Dr Felix Flicker yn brofiad gwych. Roeddwn yn ddiolchgar o allu gweithio'n uniongyrchol gyda phobl sy'n creu’r ymchwil ddiweddaraf ym maes metaddeunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Lerpwl," meddai Josh.
"Yn bendant, y prosiect oedd uchafbwynt fy astudiaethau yng Nghaerdydd."