Ewch i’r prif gynnwys

"Fy ngradd – fy nghymhelliant ar gyfer fy adferiad"

20 Gorffennaf 2022

Dywed Madeleine Spencer mai ei hastudiaethau fu ac yw ei chymhelliant wrth iddi wella o anorecsia.

Dywedodd y ferch 21 oed, a gafodd farc dosbarth cyntaf am ei thraethawd hir ac sy'n graddio gyda 2:1 mewn Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, fod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn heriol.

"Fe gefais hi’n anodd iawn yn ystod y pandemig," meddai Madeleine o Ticehurst yn Nwyrain Sussex. "Serch hynny, roedd yn sioc pan gefais ddiagnosis o anorecsia. Mae fy ngradd yn rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac fe roddodd y ffocws yr oeddwn ei angen i newid pethau."

Ychwanegodd: "Mae fy nhiwtor personol wedi bod mor gefnogol, gan sicrhau bod popeth mewn trefn pan fu'n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd i ganolbwyntio ar fy adferiad."

Mae Madeleine bellach yn bwriadu dilyn cwrs trosi i'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i Awstralia i weithio.

"Cefais fy magu yn Awstralia felly bydd yn wych treulio amser yno. Rwy'n gyffrous am y dyfodol," meddai. "Rwy'n credu bod fy stori yn dangos nad oes rhaid i bobl sy'n profi cyfnodau anodd gael eu diffinio ganddynt. Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu gyda fy ffrindiau a'm teulu."

Rhannu’r stori hon