Ewch i’r prif gynnwys

Tri brawd i raddio gyda'i gilydd yn Stadiwm Principality

22 Gorffennaf 2022

Bydd tri brawd a astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd yn dathlu eu graddio gyda'i gilydd.

Cafodd Lewis Hammond, 24 oed, radd gyntaf mewn Economeg Fusnes, gyda blwyddyn mewn diwydiant, gan orffen ei gwrs yn 2020. Dechreuodd ei frawd Matthew, 23, flwyddyn yn ddiweddarach ac enillodd 2:1 mewn Rheoli Busnes, gan olygu bod y ddau wedi cwblhau eu graddau yn yr un flwyddyn.

Mae'r brawd ieuengaf Tom, 21, bellach wedi ennill gradd 2:1 mewn Rheoli Busnes, gan orffen eleni.

Mae'r seremonïau graddio wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal yr wythnos hon yn Stadiwm Principality — ar gyfer y rhai a raddiodd yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn golygu y bydd y bechgyn yn dod i raddio gyda'i gilydd, i gyd â graddau o Ysgol Busnes Caerdydd.

Lewis, Tom, Matthew

Dywedodd Matthew: “Roedd Covid yn gyfnod rhyfedd iawn i lawer o bobl, ond mewn sawl ffordd daeth â llawer o deuluoedd yn agosach. Mae tri brawd, tair blynedd ar wahân ond o'r diwedd yn graddio o fewn diwrnod i'w gilydd yn eithaf afreal ond yn rhywbeth rwy'n hapus iawn amdano.”

Dywedodd eu Mam, Sue: “Am sefyllfa. Maen nhw'n graddio ar yr un pryd, ar ôl bod yn yr un ysgol fusnes. Dyma rywbeth na fyddem ni erioed wedi disgwyl.

“Mae'n rhyfedd meddwl mai diolch i Covid yr ydym yn cael y profiad unigryw hwn.

“Mae'n mynd i fod yn anhygoel cael tri ohonyn nhw yno. Alla i ddim aros i gael llun o'r tri ohonyn nhw gyda'u capiau a'u gynau.”

Roedd y tri bachgen gartref gyda'i gilydd yn astudio yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gyda'r ddau hŷn yn astudio eu harholiadau terfynol.

“Cyfnod gwallgof oedd e,” meddai Sue, sy'n byw yn Swydd Henffordd gyda'i gŵr David. “Roedd gennym ystafelloedd tawel pwrpasol ac arwyddion o amgylch y tŷ yn dweud, 'tawel, arholiad ar waith’. Roedden nhw yn yr un cwch gyda’i gilydd.”

Matt, Tom, Lewis

Mae Lewis bellach yn gweithio yn y cwmni cyfrifeg KPMG yn Llundain, a Matthew yn gweithio ym maes rheoli i Amazon. Nawr y mae wedi gorffen, mae Tom yn bwriadu mynd i deithio.

“Mae'n mynd i fod yn hyfryd bod yn ôl gyda'n gilydd yng Nghaerdydd,” meddai Sue. “Mae'r bechgyn bob amser wedi bod yn agos iawn. Aeth Matthew i ymweld â Lewis pan aeth i Gaerdydd am y tro cyntaf ac mae'n debyg bod hynny wedi helpu ei benderfyniad ynghylch astudio yno. Aeth Tom ymlaen i astudio'r un cwrs â Matthew.

Lewis, Tom, Matt

“Mae ganddyn nhw natur gystadleuol ac maen nhw wedi egnio'i gilydd yn ystod eu hastudiaethau. Maen nhw wedi bod yr un peth trwy'r ysgol.

Rydym yn falch iawn ohonyn nhw.”

Ychwanegodd Matthew: “Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i fy rhieni sydd wedi ein cefnogi mewn sawl ffordd drwy gydol ein teithiau, ni fyddem wedi gallu gwneud hynny hebddoch chi.”