Ymhlith y deg uchaf yn y Complete University Guide
19 Gorffennaf 2022
Mae The Complete University Guide 2023 wedi enwi Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd yn un o ddeg ysgol Cyfathrebu ac Astudiaethau’r Cyfryngau gorau’r DU.
Mae’r canllaw’n gosod yr ysgol yn y nawfed safle allan o naw deg saith o ysgolion ym maes y cyfryngau, dau le yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl arolwg ymgeiswyr 2021, y Complete University Guide oedd y tabl cynghrair pwysicaf o bell ffordd i ymgeiswyr a oedd yn gwneud eu penderfyniad terfynol.
The Complete University Guide: Sut mae’r rhestr safleoedd yn gweithio?
Eleni, am y tro cyntaf erioed, bu i’r tabl cynghrair ddwyn canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar i ystyriaeth, lle cadwodd yr ysgol ei safle yn ail ysgol orau’r DU ar gyfer ansawdd ymchwil.
Mae'r Complete University Guide yn rhoi rhagor o bwyslais ar ymchwil prifysgol oherwydd mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ddysgu’r myfyrwyr.
Daw'r canlyniad hefyd, ychydig amser yn unig ers dyfarniad y QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc ym mis Ebrill; nodwyd bod yr ysgol yn safle rhif tri o ran ysgolion gorau’r DU ar gyfer Astudiaethau Cyfathrebu a'r Cyfryngau - ac yn yr ail safle ar hugain yn fyd-eang.
Canmolodd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig, Dr John Jewell, y canlyniadau gan ddweud eu bod yn brawf eto o allu'r ysgol i sicrhau addysgu a phrofiad myfyrwyr o ansawdd uchel.
Meddai, “Mae ein safle cryf yn y Complete University Guide 2023 yn adlewyrchu ein buddsoddiad mewn cyfleusterau ac ymdrech ein staff bob dydd i sicrhau bod eu haddysgu yn taro’r nod ar gyfer ein myfyrwyr.”
“Hyd yn oed wrth i flwyddyn academaidd ddirwyn i ben, rydym yn dechrau paratoi ar gyfer y nesaf ac at y cyfle i groesawu carfan arall o fyfyrwyr i Gaerdydd.”