Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn tynnu sylw at ragoriaeth ym meysydd cyfathrebu a'r cyfryngau
7 Ebrill 2022
Yn ôl Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yw’r drydedd ysgol orau yn y DU ar gyfer astudiaethau cyfathrebu a’r cyfryngau.
Yn rhyngwladol, yr Ysgol yw’r 6ed ysgol orau yn Ewrop a'r 22ain ysgol orau yn fyd-eang, yn seiliedig ar ddadansoddi dros 200 o ysgolion.
Mae hyn yn gosod yr Ysgol ymhlith y sefydliadau gorau yn y byd.
Mae'r canlyniadau, sy'n cael eu crynhoi’n flynyddol er mwyn helpu darpar fyfyrwyr i nodi’r prifysgolion gorau mewn pwnc penodol, yn defnyddio cyfeiriadau ymchwil, ynghyd â chanlyniadau arolygon byd-eang mawr o gyflogwyr ac academyddion wrth restru prifysgolion.
Croesawodd Pennaeth yr Ysgol, Matt Walsh, gydnabyddiaeth barhaus QS o ragoriaeth yr Ysgol mewn addysgu ac ymchwil. Dywedodd: "Mae'n arbennig o bwysig bod unigolion yn y DU, yn yr UE ac yn rhyngwladol yn hyderus wrth wneud cais i astudio gyda ni, ac mae'r proffil byd-eang hwn yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.
"Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd ym mis Medi’n gwybod bod eu cwrs o'r safon academaidd uchaf ac yn cael ei addysgu yn Dau Sgwâr Canolog, ein prif leoliad yng nghanol y ddinas sydd â'r cyfleusterau dysgu, technolegau ac adnoddau diweddaraf."
Yn gyntaf ac yn ail yn y DU roedd Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain a Goldsmiths, yn y drefn honno.