Ewch i’r prif gynnwys

Mae myfyrwraig meddygaeth, sydd newydd raddio ac a ddysgodd wyddoniaeth Safon Uwch iddi hi ei hun, yn annog myfyrwyr eraill i ddilyn eu breuddwydion

20 Gorffennaf 2022

Mae un o raddedigion Prifysgol Caerdydd wedi annog pobl eraill i ddilyn eu breuddwydion ar ôl iddi ddilyn llwybr anghonfensiynol i fyd Meddygaeth.

Mae Sophie Hulse, sy’n 29 ac o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, yn graddio heddiw mewn Meddygaeth.

Roedd hi wedi breuddwydio am astudio i fod yn feddyg a helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill – ond chafodd hi erioed y cyfle i droedio i fyd gwyddoniaeth neu feddygaeth. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn atal Sophie gan iddi ymchwilio i lwybrau eraill i Feddygaeth, megis cynlluniau mynediad i raddedigion.

"Des i ar draws y BSc Anrh Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol De Cymru sy'n un o’r pedwar cwrs bwydo ar gyfer Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd," meddai.

"Y noson y des o hyd i'r cwrs, penderfynais mai dyna fyddai fy nod ac fe wnes i neilltuo'r flwyddyn nesaf i wirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru tra'n dysgu Bioleg Safon Uwch imi fy hun a pharatoi fy nghais.

"Ar ôl cwblhau blwyddyn sylfaen yn PDC, oherwydd nad oedd gen i gefndir ym maes gwyddoniaeth, ymrestrais i’n llawn ar gyfer y Gwyddorau Meddygol gan raddio dair blynedd yn ddiweddarach yn 2017 a ches i le i astudio yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd."

Roedd Sophie, a astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2017 a 2022 ac a fydd yn graddio heddiw gyda Graddedigion 2022, wedi wynebu heriau gwahanol tra ei bod yn astudio.

"Yn ystod y blynyddoedd cyntaf o astudio Meddygaeth, roedd arian yn eithriadol o dynn. Yn ffodus, llwyddodd George, sydd bellach yn ŵr imi, i symud ei waith o Loegr i ddod yn ôl i Gymru fel y gallai helpu i estyn help llaw imi'n ariannol, ac roeddwn i'n gallu parhau gyda fy ngradd," meddai.

"Roedd yn rhaid imi weithio oriau di-rif yn fy swyddi rhan-amser – ym myd manwerthu ac mewn bariau – ac roedd yn anodd cydbwyso’r gwaith â chadw’r ddysgl yn wastad o ran fy astudiaethau. Roeddwn i hefyd yn hynod ffodus o gael grant caledi un flwyddyn gan y Brifysgol, a defnyddiais i hwn i helpu i dalu’r rhent a chostau byw. Yn ystod y pandemig, bues i’n gweithio drwy gydol y cyfnod clo cyfan ar uned ddibyniaeth fawr COVID-19 yr ysbyty ac yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, yn ogystal â gweithio ar gynnal profion a brechlynnau.

"Roedd ymdopi â hyn oll, yn ogystal â dioddef yn eithaf gwael o syndrom y twyllwr, heb sôn am y pryderon ynghylch arholiadau, bob amser yn heriol. Doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i’n gallu goresgyn pob un o’r camau felly erbyn hyn mae graddio’n ymddangos yn beth mor swreal."

Cafodd Sophie ddiagnosis hefyd o goitr amlnodwlaidd gwenwynig, sef math o orthyroidaeth sy'n achosi blinder a phroblemau o ran llyncu. Arweiniodd y diagnosis hwn at lawdriniaeth a wnaeth ei phennaeth blwyddyn Michael Stechman yn ystod wythnosau cyntaf ei blwyddyn olaf.

"Er gwaethaf yr holl heriau rwy wedi'u hwynebu yn yr ysgol meddygaeth, rwy wedi cael blwyddyn olaf lwyddiannus iawn. Llwyddes i ym mhob un o fy arholiadau tra fy mod i'n parhau i weithio gyda’r nos ac yn ystod y penwythnos yn Asda. Yn ddiweddar, priodais i fy mhartner o wyth mlynedd George sydd wedi fy nghefnogi yr holl ffordd drwy fy ngradd meddygaeth," esbonia Sophie.

"Rwy'n ffodus iawn o fod wedi derbyn fy swydd gyntaf yn feddyg yn ne Cymru lle bydda i’n gweithio ym maes meddygaeth strociau, llawdriniaeth ar y fron ac wedyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau arni ac er gwaethaf yr holl heriau a chaledi, Meddygaeth yn bendant oedd y dewis gyrfaol cywir imi, a mynediad i raddedigion oedd y llwybr gorau.

Rhannu’r stori hon