Ewch i’r prif gynnwys

Arweinydd Cyngor Mwslimiaid Prydain yn ymweld â chanolfan ymchwil o fri

26 Mai 2022

Secretary General of the Muslim Council of Britain Zara Mohammed (centre) with (L-R) Dr Azim Ahmed, Jameel scholar Laura Jones, Professor Sophie Gilliat-Ray and Dr Michael Munnik.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Prydain wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd yn rhan o’i thaith o amgylch Cymru.

Croesawyd Zara Mohammed gan gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, yr Athro Sophie Gilliat-Ray OBE. Cyfarfu hefyd ag ysgolheigion Jameel o fri a staff y Ganolfan mewn sesiwn cwrdd a chyfarch anffurfiol.

Cynhaliwyd yr ymweliad yn yr un mis â lansiad cwrs Deall Iechyd Meddwl Mwslimiaid y Brifysgol.

Gan fyfyrio ar ei hymweliad, dyma a ddywedodd Zara Mohammed: "Mae ymchwil a gwaith y Ganolfan Astudiaethau Islam yn cael effaith ar Fwslimiaid Prydain a'r gymdeithas ehangach. Mae'r tîm ymchwil yn arloesi o ran deall a gweddnewid cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain ac mae hefyd yn rhoi cyfleoedd datblygu i academyddion yn y dyfodol drwy ysgoloriaethau. Rwy'n eu canmol oherwydd eu gwaith rhagorol."

Ychwanegodd: "A minnau’n arweinydd Mwslimaidd ym Mhrydain, mae gwaith y Ganolfan yn galonogol iawn. Oherwydd y gwaith rwy’n ymwneud ag ef, mae'r hanes hwn, yn ogystal â’r ffordd rydyn ni’n sôn amdano, ynghyd â’n gallu i’w ddiffinio mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr i'r gynulleidfa, yn bwysig hefyd. Rwy wedi cael fy ysbrydoli a'm goleuo'n fawr iawn, a gobeithio y byddwn ni’n gallu parhau â'n partneriaeth."

[Ffilm]

Mae ymchwil y Ganolfan yn ymdrin ag ystod eang o faterion cyfoes, gan gynnwys rhoi gwybod i Fwslimiaid am roddi organau, prosiect newydd sy'n adrodd hanes Islam yng Nghymru, adnoddau addysg grefyddol i ysgolion, y prosiect mwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn sy'n ymdrin â gwaith Imamiaid ym Mhrydain, ac ymyriadau mewn carchardai ar gyfer troseddwyr Mwslimaidd.

"Roedden ni wrth ein boddau’n croesawu Zara Mohammed yn y Ganolfan a chael y cyfle i siarad am yr ymchwil bwysig rydyn ni’n gweithio arni. Rwy'n ddiolchgar iddi am roi o'i hamser i gwrdd â myfyrwyr ac aelodau o staff, ac mae pob un ohonyn nhw wedi ymrwymo i gynyddu ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar gymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain heddiw."

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, a lansiwyd yn 2005, yw'r prif sefydliad ymchwil ym Mhrydain sy’n astudio Islam ym Mhrydain, a hynny ar sail gymdeithasegol.

Cewch wneud cais am ysgoloriaethau Jameel ar gyfer 2022tan 13 Mehefin.

Rhannu’r stori hon