Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw’r 4ydd yn y DU yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

11 Mai 2022

Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw’r 4ydd yn y DU â GPA o 3.53 yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), sy’n cadarnhau ein safle henw fel canolfan ragorol ar lefel fyd-eang am bensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig.

REF yw system y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil ymysg darparwyr addysg uwch y DU. Defnyddir canlyniadau’r REF i ddyrannu tua £2 biliwn o gyllid cyhoeddus y flwyddyn at ymchwil prifysgolion.

Cyflwynodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon. Mae hefyd wedi ennill y sgôr uchaf posibl am ein hamgylchedd ymchwil, ac aseswyd bod 100% ohono yn helpu i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf. Fe aseswyd bod 100% o’n hastudiaethau achos o effaith, a 93% o’n hallbynnau yn rhai sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae sail ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn amrywiol iawn, gyda chanlyniadau’n cael eu cynhyrchu gan chwe grŵp ymchwil ac ysgolheictod eitha gwahanol: Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth; Deunyddiau, Ymarfer, Dylunio, a Gwneud; Ynni, Amgylcheddau a Phobl; Hanes a Theori; Treftadaeth a Chadwraeth; a Threfolaeth. Mae Prifysgol Caerdydd wedi buddsoddi £17.3 miliwn er mwyn ategu ein cynlluniau ar gyfer tyfiant dros y blynyddoedd diweddar. Y prif ffocws yw adnewyddu adeilad Bute, cartref yr Ysgol am ychydig dros ganrif.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Juliet Davis: “Rydym wrth ein boddau’n gweld bod REF2021 wedi cydnabod ansawdd yr amgylchedd ymchwil y mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi bod yn ei feithrin, o gyfleusterau ymchwil blaengar yn Adeilad Bute i gynlluniau cefnogi ymchwil. Ni fyddai llwyddo i gryfhau ein hymchwil yn ystod cyfnod o dwf ac ansefydlogrwydd, fel y mae REF2021 yn ei ddangos, wedi bod yn bosibl heb ansawdd ein hamgylchedd ymchwil.”

Mae ein hysgol yn meithrin cymuned gynhwysol, amrywiol a chydweithredol sy’n llywio addysgu ar bob lefel ac ym mhob un o feysydd ein cwricwla. Rydym wedi ymrwymo hefyd i gael effaith drwy ein hymchwil, er mwyn gwireddu newidiadau llesol yn yr amgylchedd adeiledig er lles pawb.

I gael mwy o wybodaeth am ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru a darllen am effaith ein hastudiaethau achos, gweler ein tudalennau ymchwil

Mae gwybodaeth lawn am gyflwyniad REF 2021 Prifysgol Caerdydd i’w gweld ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon