Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

12 Mai 2022

Cafodd yr Ysgol Peirianneg sgôr GPA o 3.35 gyda 96% o’r cyflwyniad cyfan yn cael ei ystyried yn arwain y byd, neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae ein hymchwil wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatrys problemau modern a gwella ansawdd bywyd. Adlewyrchir hyn yn ein sgôr GPA cyffredinol o 3.35, gyda 96% o'n cyflwyniad yn cael ei ystyried yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r canlyniad hwn yn ein gosod yn y chwartel uchaf o ran y sefydliadau sy’n perfformio orau yn y DU.

Adlewyrchir ein llwyddiant ers 2014 yn y gwaith sylweddol o ehangu trawsddisgyblaethol a chydweithio, penodiadau newydd a buddsoddiadau o bwys mewn cyfleusterau a seilwaith, ynghyd â’n hymrwymiad i feithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol, a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu Peirianneg, yn adlewyrchu hynny.

Dywedodd yr Athro Jianzhong Wu: “Rwy’n ddiolchgar i’r holl aelodau o staff am y gwaith caled sydd wedi gwireddu ein canlyniadau REF. Clir yw ansawdd ein hymchwil, gyda 96% o’r ymchwil a gyflwynon ni yn cael ei hystyried yn arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a manylder.”

“Mae hefyd yn bwysig nodi i ni gynnwys cyfran uchel o staff, sy’n adlewyrchu ein hethos am ymchwil ddwys a’r rôl y mae hyn yn chwarae ar draws ein cymunedau ymchwil amrywiol.”

“Mae’r canlyniadau rhagorol hyn, ynghyd â llwyddiannau mawr gyda denu cyllid ymchwil, yn adlewyrchu’n dda ar ragoriaeth ein hymchwil, yn ogystal â chryfder ein safle fel sefydliad byd-eang, dwys ei ymchwil yn y dyfodol. Mae gennym strategaeth glir i adeiladu arni ar gyfer y REF nesaf, gan hybu ein harbenigedd ymchwil presennol, gyda ffocws ar feysydd ymchwil o flaenoriaeth i ni.

Ychwanegodd: “Braint go iawn yw cael y cyfle i weithio gyda chynifer o staff a myfyrwyr ymchwil talentog ar brosiectau heriol a chyffrous am ynni, a allai drawsnewid ansawdd bywyd cymaint o bobl. Ar ran yr Ysgol, hoffwn i hefyd ddiolch yn fawr i staff ein gwasanaethau proffesiynol a’n staff addysgu am eu cefnogaeth ragorol a’r Bwrdd Cyngor Diwydiannol am eu harweiniad a’u cefnogaeth.”

I ddysgu mwy am yr ymchwil arloesol y mae’r Ysgol Peirianneg yn ymgymryd â hi, darllenwch am effaith ein hastudiaethau achos ac edrych ar wefan yr ysgol. Mae gwybodaeth lawn am gyflwyniad REF Prifysgol Caerdydd 2021 ar gael ar dudalennau ymchwil canolog y Brifysgol.

Rhannu’r stori hon