Ewch i’r prif gynnwys

Newydd ar gyfer 2022: MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol

23 Chwefror 2022

Woman standing in front of data

Newydd ar gyfer 2022: MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi lansio ei gradd meistr newydd mewn Troseddeg, yn edrych ar yr effaith y mae globaleiddio a digideiddio yn ei gael ar droseddu a rheoli trosedd.

Mae'r rhaglen newydd hon yn mabwysiadu ymagwedd ryngwladol, gan edrych ar natur gynyddol drawsffiniol troseddu, a'r heriau sy'n wynebu asiantaethau cyfiawnder troseddol a gorfodi'r gyfraith ledled y byd.

Siaradom ni â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Luca Giommoni, am yr hyn y gallai myfyrwyr ei ddisgwyl o'r rhaglen newydd.

Gwyliwch fideo'r rhaglen.

Beth oedd y rheswm am greu'r MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol?

Pan ddechreuon ni ddatblygu'r rhaglen, doedd dim rhaglen MSc yn y DU yn bwrw golwg eang dros droseddu mewn cyd-destunau rhyngwladol. Dydym ni ddim yn credu ei bod yn bosibl cyfyngu astudio troseddu i lefel genedlaethol bellach. Mae gwledydd a chymunedau ar draws y byd yn fwy cysylltiedig nag erioed ac mae troseddwyr yn addasu i'r amgylchedd newydd hwn gan fanteisio ar ein dibyniaeth gynyddol ar dechnolegau digidol. Bellach mae angen i'n hymateb i droseddu ystyried yr elfen ryngwladol hon, felly aethom ati i greu'r MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol.

Pa bynciau fydd y rhaglen yn ymdrin â nhw?

Yn y rhaglen byddwn yn cwestiynu sut rydym ni’n diffinio 'trosedd', ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, yn ogystal â'r ymatebion rhyngwladol a chenedlaethol i'r mathau hyn o droseddau. Byddwn yn ystyried pynciau fel mynegi casineb ar y cyfryngau cymdeithasol a pherthynas hynny gyda chasineb all-lein neu sut y caiff cyffuriau anghyfreithlon eu masnachu ar draws gwledydd. Er enghraifft, byddwn yn ystyried a all digwyddiadau, fel ymosodiadau terfysgol, achosi cynnydd o ran cyflawni casineb.

Yn bwysicach o bosibl, byddwn yn ymdrin â sut i ymateb i'r troseddau hyn ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Er enghraifft, beth allwn ni ei wneud i leihau erledigaeth ddomestig neu gam-drin plant yn rhywiol?  Byddwn yn gwneud hyn drwy edrych ar reoli troseddu, atal troseddu a lleihau troseddu o amrywiaeth o sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol.

Pam ddewisoch chi gynnwys lleoliad gwaith yn y rhaglen?

Roeddem ni am wneud yn siŵr fod addysg a gwaith mor agos â phosibl.  Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig cyfle i gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu caffael a'u datblygu yn ystod y rhaglen mewn amgylchedd gwaith. Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleoedd lleoliad gwaith gwahanol gan gynnwys y gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf, Llywodraeth Cymru, a llawer o rai eraill gan gynnwys y canolfannau ymchwil niferus yma yn y Brifysgol.

Ar eu lleoliad gwaith efallai y bydd myfyrwyr yn cefnogi carcharorion a ryddhawyd yn ddiweddar i ailymuno â chymdeithas neu weithio i baratoi dadansoddeg a thystiolaeth i gefnogi penderfyniadau polisi mewn meysydd yn gysylltiedig â throseddu.

Pa sgiliau fydd myfyrwyr yn eu hennill ar y rhaglen?

Byddant yn dysgu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i asesu natur, graddfa ac effaith troseddau, gan ddefnyddio data troseddu, ystadegau a hefyd cyfweliadau a dulliau ansoddol eraill.

Mae hyn yn cynnwys mathau traddodiadol o ddata fel troseddau a gofnodir gan yr heddlu, ond hefyd ffynonellau data newydd sy'n dod i'r amlwg fel data cyfryngau cymdeithasol a dadansoddeg data mawr. Er enghraifft byddant yn dysgu sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i amcangyfrif patrymau troseddu all-lein, gan ddefnyddio gwybodaeth o HateLab Prifysgol Caerdydd, sy'n ganolfan fyd-eang ar gyfer data a dealltwriaeth o fynegi casineb a throseddu.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer yr MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol ar gyfer mis Medi 2022.