Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer ymchwil academydd i droseddu trefnedig

10 Rhagfyr 2020

Professor Mike Levi
Professor Mike Levi

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei ymchwil gwrth-lygredd.

Cyhoeddwyd mai'r Athro Michael Levi oedd enillydd gwobr Pwyllgor Rheol y Gyfraith / Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddau am Ymchwil ac Addysg.

Ers y 1970au, mae'r Athro Levi wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau academaidd a pholisi mewn llygredd, coler wen a throseddu 'trefnedig' eraill a'r ffyrdd y maent yn rhyngweithio â globaleiddio a gyda'r fframweithiau sy'n dod i'r amlwg o blismona a rheoleiddio trawswladol.

Ymgynghorodd y DU, yr UE a llywodraethau eraill fel Awstralia ag ef yn rheolaidd, i'w cynorthwyo i feddwl am y ffordd orau o reoli eu problemau ariannol a throseddau cyfundrefnol. Ar lefel Ewropeaidd, ef oedd yr unig academydd yn y DU a benodwyd i Grŵp Arbenigwyr yr UE ar Lygredd ac mae wedi bod yn uwch gynghorydd mewn rhwydweithiau i gynghori llywodraethau a sectorau’r UE ar ymdrechion gwrth-lygredd.

Nododd ei lythyr enwebu'r canlynol: “Mewn byd lle mae'n rhaid i gynrychiolwyr rhanddeiliaid prysur ac weithiau dros dro, orfod delio â phroblemau cymhleth o'r newydd, mae ymchwil yr Athro Levi yn cynnig amddiffynfa yn erbyn honiadau sydd wedi cael gormod o sylw ynghylch lefelau niwed ac effeithiolrwydd tebygol ymyriadau. Mae ei waith yn tynnu sylw at yr angen am ddealltwriaeth gyhoeddus fwy cynnil o'r angen am fesurau ataliol a chyfiawnder troseddol wrth fynd i'r afael â niwed llai gweladwy."

Yn ôl yr Athro Levi, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: “Mae’n anrhydedd aruthrol derbyn y gydnabyddiaeth fyd-eang hon o ansawdd fy ymchwil, a chynhaliais yr holl waith yng Nghaerdydd dros y 45 mlynedd diwethaf.

“Fel troseddau eraill, mae llygredd yn amrywio o ran ei raddau a’i niwed ac yn y ffyrdd rydyn ni’n ymateb tuag ato. Mae llawer, er yn sicr nid pob un, o'r cronfeydd yn canfod eu ffordd i gartrefi drud, delwriaethau ceir a busnesau yn ein gwledydd, gan ddefnyddio ein sefydliadau proffesiynol ac ariannol.

“Rwyf wedi cael y fraint o daflu rhywfaint o olau ymchwil ar y prosesau y mae gwahanol fathau o lygredd a throsglwyddiadau cyfoeth yn digwydd drwyddynt.  Mae fy ngwaith yn awgrymu mai camgymeriad yw dileu 'llygredd' a 'gwrth-lygredd' rhag twyll, troseddau cyfundrefnol a rhoddion gwleidyddol, gan eu bod yn aml yn rhyng-gysylltiedig, er enghraifft drwy gontractau llywodraeth leol a chenedlaethol."

Y llynedd, cafodd yr Athro Levi wobrau oes gan Gymdeithas Troseddeg America, Cymdeithas Troseddeg Prydain a Gwobr Trechu Troseddau Economaidd Oes gyntaf y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.