Ewch i’r prif gynnwys

Mae Mis Cyflogadwyedd JOMEC ar waith

17 Chwefror 2022

Smiling girl student wear wireless headphone study online with skype teacher
Bydd y mis cyflogadwyedd yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar y gyrfaoedd ar ôl graddio.

Mae mis cyffrous o ddigwyddiadau gyrfaoedd ar-lein i fyfyrwyr israddedig wedi'i lansio fel y bydd ganddyn nhw fwy o syniad am y sectorau swyddi a'r gyrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw ar ôl graddio.

Bydd y digwyddiadau, a drefnir ar y cyd gan yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a thîm Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael gwybod am y mathau o swyddi a fyddai'n siwtio eu diddordebau a'u cynlluniau gyrfaol.

Bwriad y digwyddiadau yw ychwanegu at yr ystod o gymorth o ran cyflogadwyedd sydd ar gael eisoes i fyfyrwyr drwy fodiwlau’r Ysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd.

Bydd pob digwyddiad yn edrych ar wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys:

  • Teledu, ffilm a radio
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a chyfathrebu
  • Cyhoeddi
  • Y diwydiannau creadigol

Dywedodd Dr Tom Allbeson, darlithydd mewn hanes diwylliannol a chyd-drefnydd y trafodaethau, "Mae ein myfyrwyr yn awyddus i sgwrsio am eu dyfodol ac mae sgyrsiau'r misoedd hyn yn ffordd arall iddyn nhw lywio a llunio eu cynlluniau."

Myfyrwyr yn eistedd mewn man astudio agored ysgafn.
Mae'r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr yn gartref i wasanaethau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol.

Mae tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn cynnig gwasanaethau gyrfaol a chyflogadwyedd i fyfyrwyr ac yn gweithio ar y cyd ag Ysgolion academaidd, Undeb y Myfyrwyr a channoedd o recriwtwyr graddedigion bob blwyddyn.

Drwy fewnrwyd Prifysgol Caerdydd, gall myfyrwyr gyrchu llu o adnoddau, cofrestru ar gyfer digwyddiadau a threfnu apwyntiadau gyda chynghorwyr gyrfaol a chyflogadwyedd.

Dyma a ddywedodd Chris Barnes, cyd-drefnydd y trafodaethau a chynghorydd gyrfaol Dyfodol Myfyrwyr yn JOMEC, "Bydd y sgyrsiau hyn yn creu cyfleoedd newydd i'n myfyrwyr mewn sectorau na fydden nhw fel arall wedi'u hystyried o'r blaen efallai."

Diweddaru’ch gwybodaeth yn gyson

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a’r cyfleoedd rheolaidd gan Dyfodol Myfyrwyr:

Dyfodol Myfyrwyr

Rhannu’r stori hon