Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgolion Caerdydd a Bremen yn arwyddo partneriaeth

25 Mawrth 2019

Cardiff University and University of Bremen event

Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd wedi dathlu dechrau partneriaeth gyda Phrifysgol Bremen mewn ymgais i gryfhau cysylltiadau Ewropeaidd yn sgîl Brexit.

Bydd y ddwy brifysgol yn dod at ei gilydd i greu Cynghrair Bremen-Caerdydd, gyda’r nod o alluogi mwy o staff a myfyrwyr i symud rhwng sefydliadau a chael gafael ar arian ymchwil yn haws.

Lansiwyd y bartneriaeth heddiw mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd. Roedd cynadleddwyr o Brifysgol Bremen a phartneriaid academaidd a diwylliannol ehangach o’r Almaen a Chymru yn bresennol.

Bydd cysylltiad aelodau staff academaidd o un brifysgol i’r llall yn agwedd unigryw i Gynghrair Bremen-Caerdydd.

Bydd hyn yn galluogi staff i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cydweithredol hirdymor, i oruchwylio myfyrwyr PhD ac, yn fwyaf arwyddocaol, gwneud cais am gyllid allanol trwy systemau cenedlaethol perthnasol y sefydliad partner.

Prifysgol Bremen yw un o ‘brifysgolion ifanc’ mwyaf blaenllaw yr Almaen, gyda thua 20,000 o fyfyrwyr a 2,300 o academyddion. Mae ei gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn ymestyn ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn y gwyddorau naturiol, peirianneg, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau.

Ers 2012, mae wedi cael nawdd fel un o’r un ar ddeg prifysgol orau ym Menter Rhagoriaeth yr Almaen.

Mae gan Brifysgol Caerdydd gysylltiadau ymchwil gyda Phrifysgol Bremen sydd eisoes wedi ennill eu plwyf. Mae’r rhain yn cynnwys cysylltiadau trwy Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd a Chanolfan Gwyddorau Amgylcheddol Morol (MARUM) Prifysgol Bremen, a’r fenter Gwyddorau-Dyniaethau draws-ddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd a grŵp Ffuglen a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bremen.

Cardiff University and University of Bremen VCs

Mae Cynghrair Bremen-Caerdydd yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol a rennir a bydd yn canolbwyntio’n gyntaf ar gryfderau ymchwil ategol mewn tri maes penodol: y gwyddorau cyfathrebu a chyfryngau; y gwyddorau amgylcheddol a morol; ac astudiaethau hanesyddol a llenyddol. Bydd hefyd yn agored i bob maes ddatblygu mentrau cydweithredol newydd. Mae ffiseg lled-ddargludyddion ymhlith y meysydd addawol pellach i ddod yn rhan o’r gynghrair.

Bydd cronfa gydweithredol pwrpasol ar agor ar gyfer datblygu ymchwil ar y cyd rhwng y ddau sefydliad ym mhob disgyblaeth, yn ogystal â symudedd staff addysgu, technegol a gwasanaethau proffesiynol, er mwyn rhannu arfer gorau.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Trwy Gynghrair Bremen-Caerdydd, rydym yn ymateb i’r heriau cymhleth a ddaw yn sgîl Brexit drwy gryfhau cysylltiadau gydag un o’n partneriaid Ewropeaidd hirdymor, ac yn gwneud yn siŵr bod ein staff a’n myfyrwyr yn parhau i allu cael gafael ar gyfoeth o brofiadau addysgu ac ymchwil cyffrous.

“Rydym yn brifysgol fyd-eang, sy’n edrych tuag allan ac yn sylweddoli bod partneriaethau rhyngwladol yn un o’r prif ffactorau sy’n ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau strategol.

“Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu creu partneriaeth â sefydliad sy’n rhannu’r brwdfrydedd hwn dros gydweithio rhyngwladol a symudedd staff a myfyrwyr, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’n cyfoedion yn Bremen yn y dyfodol.”

Dywedodd Llywydd Prifysgol Bremen, Bernd Scholz-Reiter: “Gyda Chynghrair Bremen-Caerdydd, rydym yn hwyluso’r broses o gydweithio a chyfnewid ymhlith ein gwyddonwyr. Wrth gydweithio gyda phrifysgol o Brydain, rydym hefyd yn mynd yn groes i Brexit a’r ynysu sydd ar dwf yn Ewrop, gan gyfnewid a rhwydweithio.”

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.