Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn derbyn £10k ychwanegol i sbarduno diagnosis o ganser y prostad

13 Rhagfyr 2021

Patient and nurse

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu prawf gwaed syml, a all ragfynegi difrifoldeb diagnosis canser y prostad unigolyn, heb yr angen am biopsïau ymwthiol.

Mae'r tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Aled Clayton, yn datblygu prawf cyffrous ac arloesol i gynorthwyo diagnosis ac asesiad risg canser y prostad. Bydd y prawf yn mesur proteinau sy’n bresennol yn y gwaed ar wyneb allanol fesiglau bach sy’n tarddu o’r tiwmor, a’r gobaith yw y bydd yn helpu clinigwyr i ddeall mwy am sut y bydd canser y prostad yn datblygu. Bydd y prawf hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol, ochr yn ochr â'r prawf gwaed PSA traddodiadol, a sganiau MRI. Bydd y wybodaeth ategol hon yn helpu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd lle mae'n debyg bod canser yn bresennol, ond mae ei ddifrifoldeb a'i natur ymosodol yn ansicr. Y nod yw lleihau gwneud biopsi diangen, a hefyd rhoi gwybodaeth ychwanegol sy'n helpu i asesu'r risg o glefyd ymosodol.

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynion, gyda dros 50,000 o ddiagnosiau newydd yn y DU bob blwyddyn. Gall amrywio yn ei fath, ac i lawer o ddynion bydd y clefyd yn araf ac yn annhebygol o beryglu bywyd. I ddynion eraill, gall y canser fod ar ffurf fwy difrifol sy'n gofyn am ymyrraeth glinigol. Mae cydnabod clefyd ymosodol cyn gynted â phosibl yn bwysig, ac mae datblygu prawf gwaed ar gyfer hyn yn debygol o achub bywydau.

Mae elusen Prostate Cymru wedi rhoi £10,000 o gyllid ychwanegol tuag at y prosiect, a fydd yn cefnogi gwaith Arbenigwr Technegol sy'n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.

Dywedodd yr Athro Clayton, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru: "Ein huchelgais yw y bydd y prawf hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i feddygon sy'n caniatáu iddynt fod yn fwy sicr am yr angen am biopsi. Os yw'r prawf yn gweithio'n dda, gall ddisodli biopsi yn gyfan gwbl - a fyddai'n ddatblygiad gwych. Yn y pen draw, bydd yn helpu meddygon i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer triniaeth unigolyn, er mwyn iddynt gael y canlyniadau a'r gofal gorau."

"Bydd y cyllid gan Prostate Cymru yn helpu i sicrhau bod ein tîm yn gallu manteisio ar yr adweithyddion labordy hanfodol i ddatblygu'r prawf ac i yrru'r prosiect hwn yn ei flaen."

Meddai Tina Tew, Prif Swyddog Gweithredol Prostate Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi'r Athro Clayton a'i dîm gyda'u gwaith pwysig. Un o brif nodau ein helusen yw helpu i ariannu arloesedd ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniad eu hymchwil."

Darganfyddwch ragor am sut i helpu i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon