Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwadau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael a phatrymau lleferydd mewn siaradwyr dwyieithog

30 Tachwedd 2021

Image of three speech bubbles on a pale purple background

Archwiliad o'r dylanwadau cymdeithasol a seicolegol ar batrymau lleferydd siaradwyr dwyieithog, o blant i oedolion ac ar draws nifer o ieithoedd, yw ffocws cyfrol newydd a gydolygwyd gan Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.

Bu Dr Morris, sy'n Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol, yn gweithio gyda Dr Robert Mayr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar y rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Languages, a gyhoeddwyd gan MDPI Books mewn fformatau print a digidol. Nod Social and Psychological Factors in Bilingual Speech Production yw meithrin dealltwriaeth ddyfnach o effaith ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar ddatblygiad lleferydd dwyieithog.

"Er mwyn cael dealltwriaeth ehangach a mwy cyfannol o batrymau lleferydd dwyieithog mae'n bwysig ystyried y ffactorau cymdeithasol a seicolegol sydd ar waith. Gall eu dylanwad fod yn sylweddol ac amrywio yn ôl y cyd-destun."

Dr Jonathan Morris Cyfarwyddwr Ymchwil

Ychwanegodd Dr Morris: "Gall ffactorau seicolegol gynnwys y defnydd o iaith gyntaf ac ail iaith, oed dechrau dysgu, a hyd y preswyliad yn y lleoliad ail iaith tra bod ffactorau cymdeithasol yn gallu cynnwys cyfeiriadedd diwylliannol ac ethnig, cefndir economaidd-gymdeithasol, neu ddynodwyr demograffig ehangach. Mae'r casgliad o bapurau yn y gyfrol newydd hon yn ystyried ffactorau cymdeithasol neu seicolegol mewn cyd-destunau gwahanol - rhai'n canolbwyntio ar siaradwyr sy'n blant ac eraill ar oedolion - ac ar draws amrywiol ieithoedd o Gymraeg a Saesneg i Arabeg, Galiseg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwseg a Sbaeneg."

Yn ogystal â'i rôl yn gyd-olygydd, cyfrannodd Dr Morris erthygl yn edrych ar ddwyieithrwydd yng Nghymru yn benodol. Mae'r erthygl, Social influences on phonological transfer: /r/ variation in the repertoire of Welsh-English bilinguals, yn ystyried sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ynganu Cymraeg a Saesneg pobl ddwyieithog yng ngogledd Cymru.

Ychwanegodd Dr Morris: "Bu'n bleser cydweithio gyda Robert a'r cyfranwyr niferus ar  y casgliad hwn o erthyglau. Maen nhw'n archwiliadau sy'n procio'r meddwl ac yn cynnig syniadau a safbwyntiau newydd ar effaith ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar leferydd siaradwyr dwyieithog."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.