Ewch i’r prif gynnwys

Ship Shape a Phrifysgol Caerdydd yn dod ynghyd

22 Tachwedd 2021

L-R: Carrie Skye, Gareth Williams, Daniel Sawko, Alistair Baillie.

Mae’r peiriant chwilio Cyfalaf Menter arloesol, Ship Shape, yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd i helpu buddsoddwyr i ddod o hyd i gwmnïau bach sy’n tyfu.

Mae’r feddalwedd, sydd wedi ennill gwobr gan FinTech Cymru, yn dod o hyd i fuddsoddwyr hynod berthnasol mewn eiliadau. Ar hyn o bryd, mae ar gael i brifysgolion, cwmnïau Cyfalaf Menter, cwmnïau cyllid corfforaethol a sefydliadau llywodraethol ar gyfer yr entrepreneuriaid y maent yn eu cefnogi.

Nawr, diolch i gymorth gan raglen SMARTCymru Llywodraeth Cymru,

sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gofynnwyd i arbenigwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd ddatblygu platfform Ship Shape ymhellach.

Diben y prosiect yw creu meincnod newydd ar gyfer data ariannol ar fuddsoddi, wedi’i yrru gan wyddor data.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Ship Shape, Alistair Baillie: "Nid yw data ariannol ar fuddsoddi’n cael ei dargedu’n ddigonol. Rhaid i ni gael gwared ar y data diangen a rhoi beth yn union sydd ei angen i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau. Rydym yn falch iawn o arwain y tarfiad hwn a chael ein cefnogi gan Brifysgol Caerdydd a chyllid SMARTCymru gan Lywodraeth Cymru.”

Mae Cyfalaf Menter yn ddiwydiant sy'n tyfu. Yn 2020, amcangyfrifwyd mai £220 biliwn oedd gwerth y diwydiant Cyfalaf Menter byd-eang. Yn 2021, roedd £310 biliwn eisoes wedi'i fuddsoddi erbyn mis Awst. Fodd bynnag, mae'n ddiwydiant lle mae entrepreneuriaid yn treulio misoedd yn ceisio dod o hyd i’r unigolion cywir mewn cwmnïau Cyfalaf Menter.

Dywedodd yr Athro Irena Spasic o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Ship Shape i’w helpu i baru buddsoddwyr â busnesau. Bydd cloddio testun a gwyddor data’n hollbwysig i wella gwybodaeth ar gyfer buddsoddiadau ariannol yng nghyd-destun data mawr. Rydym yn falch o gael cyfle i droi ein hymchwil yn arloesedd tarfol.”

Ychwanegodd Dr Fernando Loizides, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Gwyddor Data Prifysgol Caerdydd: "Mae'r bartneriaeth yn gyfle gwych i baru arbenigedd academaidd ag anghenion y diwydiant. Drwy gydol y prosiect, byddwn yn ceisio sicrhau bod rhyngweithio di-nam rhwng y systemau a’u defnyddwyr terfynol er mwyn sicrhau deallusrwydd artiffisial egluradwy a rhoi profiad gwell i ddefnyddwyr.”

Enillodd Ship Shape y wobr Cwmni Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau FinTech Cymru 2021.