Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2022

17 Medi 2021

Welsh dragon projected on Main Building

Prifysgol Caerdydd yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn Good University Guide 2022 The Times a The Sunday Times.

Mae hefyd yn dal i fod yn y safle uchaf yng Nghymru. Mae yn safle 35 allan o 135 ledled y DU.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant pellach yn y tabl cynghrair, lle mae Caerdydd wedi dringo pum safle ac aros yn y safle uchaf yng Nghymru yn Good University Guide 2022, a gyhoeddwyd ym mis Awst.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae aros yn y safle uchaf yng Nghymru yn Good University Guide The Times a The Sunday Times ar ôl blwyddyn heb ei thebyg o’r blaen i’r sector addysg uwch yn gyflawniad sylweddol...”

“Mae ennill teitl Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru unwaith eto, teitl y gwnaethom ei ennill ddiwethaf yn 2018, yn dyst i ymdrechion enfawr staff ein Gwasanaethau Proffesiynol a’n Gwasanaethau Academaidd. Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi golygu ein bod wedi gallu parhau i gyflawni ar gyfer ein myfyrwyr a chwarae ein rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau’r pandemig i Gymru a'r byd.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

“Mae'n braf cael ein cydnabod fel hyn wrth i ni barhau â'n hymdrechion i fod yn glod i Gymru a chwarae rhan allweddol yn llwyddiant economaidd a chymdeithasol y genedl.”

Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £50 miliwn yn ei Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, a bydd yn agor Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021/22.

Ychwanegodd Alastair McCall, Golygydd Good University Guide The Times a The Sunday Times: “Prifysgol Caerdydd yw un o’r cyrchfannau sy’n apelio fwyaf at unigolion ar hyn o bryd, ac mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y ceisiadau iddi...”

“Bydd gwella profiad myfyrwyr drwy fuddsoddi mewn, er enghraifft, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd gwerth £50 miliwn, yn gwneud y Brifysgol yn opsiwn hyd yn oed yn fwy deniadol yn y dyfodol.”

Alastair McCall Golygydd Good University Guide The Times a The Sunday Times

Rhannu’r stori hon