Ewch i’r prif gynnwys

Yn sgîl 9/11, roedd cwmnïau yn barod ar gyfer effeithiau economaidd COVID-19, yn ôl ymchwil

9 Medi 2021

Roedd cwmnïau a ddioddefodd effaith ariannol 9/11 yn fwy gwydn o ran effeithiau economaidd COVID-19, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Canfu’r ymchwilwyr fod colledion prisiau stoc yn ystod y pandemig 7% yn is yn achos y cwmnïau a oedd wedi masnachu yn ystod cyfnod yr ymosodiadau terfysgol yn 2001, o'u cymharu â'r rhai nad oedden nhw wedi dioddef sioc 9/11.

Er bod astudiaethau eraill wedi tynnu cymariaethau rhwng pandemigau'r gorffennol a COVID-19, dyma'r gyntaf o'i bath i gymharu digwyddiadau'r deunaw mis diwethaf â 9/11.

Er bod y digwyddiadau’n gwbl wahanol, mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod y ddau ohonyn nhw’n rhannu effeithiau tymor byr tebyg a ran y farchnad stoc.

Dyma ddywedodd yr awdur arweiniol Dr Onur Tosun, Darlithydd Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Gwelsom fod y cwmnïau hynny a effeithiwyd gan 9/11 wedi dysgu’r hyn y gallem ei alw’n sgiliau goroesi oherwydd eu profiadau, a’u bod wedi gallu defnyddio’r rhain yn ystod cyfnod Covid.

“O ganlyniad, gwnaethon nhw berfformio’n well - hyd at 7% - ar y marchnadoedd stoc, sef biliynau o ddoleri o werth y farchnad a arbedwyd o’u cymharu â’u cymheiriaid. Ar ben hynny, gwelsom fod cyfranddaliadau’r un sefydliadau wedi cael eu masnachu mwy gan fuddsoddwyr, sydd efallai’n arwydd o fwy o ymddiriedaeth yn y cwmnïau sydd wedi datblygu math o wytnwch ariannol yn ystod y ddau ddigwyddiad enfawr hyn.”

Canolbwyntiodd yr astudiaeth, mewn partneriaeth â Phrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, ar 445 o gwmnïau â’u pencadlys yn ninas Efrog Newydd ac sy’n masnachu ar dair marchnad stoc o bwys, sef Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NYSE), y NYSE Americanaidd a NASDAQ.

Cymharodd y tîm y 114 cwmni a fasnachodd ar draws y ddau ddigwyddiad ynghyd â 331 arall oedd yn weithredol ar ddechrau cyfnod pandemig COVID-19 o 9 Rhagfyr 2019 i 30 Ebrill 2020.

Dyma a ddywedodd yr Athro Arman Eshraghi, Cadeirydd Cyllid a Buddsoddi Ysgol Fusnes Caerdydd: “Yr hyn a ddaeth i’r amlwg oedd bod y gwytnwch y mae unigolion yn ei ddatblygu ar ôl bod trwy ddigwyddiadau trychinebus neu drawmatig, yn wir am gwmnïau hefyd.

“Mae eu gwytnwch sefydliadol gwell, a ddatblygwyd yn ystod un argyfwng, yn amlygu ei hun o ran y gallu i ragweld, ymdopi ac addasu yn well yn yr argyfwng nesaf.

“Yr hyn sy'n ddiddorol yn ein barn ni yw y posibilrwydd o ragweld sut y bydd 'goroeswyr' argyfwng Covid yn perfformio mewn argyfyngau yn y dyfodol. Efallai y bydd patrwm tebyg yn berthnasol. ”

Yn ôl yr ymchwilwyr, bydd eu canfyddiadau yn bwysig o ran ymarfer yn y sector corfforaethol ac wrth lunio polisïau oherwydd bydd epidemigau a phandemigau tebyg yn digwydd yn y dyfodol yn ôl pob tebyg.

Ychwanegodd Gülnur Muradoğlu, Athro Cyllid yn Ysgol Busnes a Rheolaeth y Frenhines Mary: “Mae gan ein canfyddiadau oblygiadau i fuddsoddwyr a chorfforaethau fel ei gilydd.

“Dylai buddsoddwyr nodi a chymryd sylw o’r cwmnïau hynny sydd wedi ‘goroesi’ COVID-19 - gan mai nhw fydd y rhai gwydn wrth wynebu problemau tebyg yn y dyfodol.

“Mae busnesau, fel pawb arall, yn mynd trwy argyfwng digynsail ond mae ein canfyddiadau yn dangos y byddan nhw'n dysgu o'r pandemig hefyd, heb os nac oni bai. Byddan nhw’n datblygu ac yn gwella eu prosesau a'u harferion sefydliadol gan eu gwneud yn gryfach ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd y papur, 'Staring Death in the Face: The Financial Impact of Corporate Exposure to Prior Disasters’ yn y British Journal of Management.