Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel gyntaf

11 Awst 2021

Mae myfyriwr Cymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf.

Gwnaeth Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle ennill y wobr am tu ôl i’r awyr (Y Lolfa), sy'n dilyn perthynas Deian ac Anest drwy angst eu harddegau.

Cyhoeddwyd y newyddion ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru ddydd Mercher, 4 Awst 2021, pan ymunodd Megan â’r cyflwynydd Nia Roberts, enillydd gwobr Barn y Bobl Hazel Walford Davies, Golygydd Golwg Garmon Ceiro a Miriam Williams o Llenyddiaeth Cymru.

Bydd Megan yn derbyn gwobr o £4,000 a thlws a gomisiynwyd yn arbennig, wedi'i ddylunio a'i greu gan yr arlunydd Angharad Pearce Jones.

Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Llenyddiaeth Cymru am yr anrhydedd hon, ac mae’n fraint cael bod ymhlith awduron a beirdd y mae gennyf gymaint o edmygedd tuag atynt.

“Mae fy nofel yn dilyn dau gymeriad ifanc yn y chweched dosbarth wrth iddynt frwydro yn erbyn problemau iechyd meddwl a’r berthynas glós sy’n datblygu rhyngddynt. Ysgrifennwyd y nofel o safbwynt y ddau gymeriad, ac ysgrifennais lais un ohonynt mewn tafodiaith Gymraeg gref er mwyn ceisio adlewyrchu’r ffordd y mae rhai pobl ifanc yng Ngogledd Cymru’n siarad heddiw.”

tu ôl i’r awyr yw nofel gyntaf Megan, ond mae eisoes wedi cyhoeddi gwaith yng nghylchgronau Y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt. Yn 2020, cafodd fwrsari gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron newydd.

Yn gynharach yr wythnos hon, daeth Megan yn gyntaf yn y categori Ffuglen (Cymraeg). Felly, roedd yn gymwys i ennill y wobr gyffredinol a theitl Llyfr y Flwyddyn 2021.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg a chyn-Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru: “Mae dod yn gyntaf yn y categori a mynd ymlaen i ennill y wobr gyffredinol mewn cystadleuaeth mor ffyrnig yn gyflawniad mawr, ac mae gwneud hynny â nofel gyntaf yn gwneud camp Megan yn fwy nodedig fyth.

“‘Cydanrhydedd’, felly, mewn mwy nag un ystyr, mae Megan yn hyrwyddo’r dychymyg creadigol, ac mae’r Brifysgol gyfan – nid dim ond ei chymuned Gymraeg – yn falch ohoni.”

Mae cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn wedi’i chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004 ac wedi dathlu rhai o awduron enwocaf Cymru ochr yn ochr â phobl dalentog newydd gwych.

Rhoddir y gwobrau blynyddol am dalent lenyddol ragorol o Gymru ar draws sawl genre yn Saesneg a Chymraeg. Mae 12 o wobrau i gyd, gyda chronfa gwobr gyfunol o £14,000.

Mae pedwar enillydd categori, un enillydd Dewis y Bobl ac un enillydd cyffredinol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae pedwar categori ym mhob iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc. Un o'r pedwar enillydd categori fydd yr enillydd cyffredinol ac yn hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2021.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Cafodd Megan fwrsari gan Llenyddiaeth Cymru i weithio ar tu ôl i’r awyr. Felly, mae'n wych ei gweld yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae'r llyfr yn ymchwilio i themâu pwysig. Wrth wneud hynny, mae wedi hawlio, a bydd yn parhau i hawlio, ei le ar silffoedd llyfrau'r genedl am flynyddoedd i ddod.

“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, rwy’n llongyfarch Megan, ac yn diolch iddi am ein difyrru a’n hysbrydoli cymaint yn ystod blwyddyn lle na fu pŵer llenyddiaeth erioed yn bwysicach. Rwy’n annog pawb i ymweld â’u siop lyfrau neu lyfrgell leol ac ymgolli ym myd y llyfr eithriadol hwn.”

Roedd Megan yn un o ddau o gynrychiolwyr Prifysgol Caerdydd a oedd yn y ras ar gyfer gwobrau’r gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2021. Cyrhaeddodd Dr Siwan Rosser, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Cymraeg, y rhestr fer yn y categori Ffeithiol Greadigol â Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

Ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru i weld rhestr lawn o'r enillwyr.

Rhannu’r stori hon