Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd meddwl plant

13 Awst 2021

Children feet swinging on tyre swing

Mae ymchwilwyr o Gaerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi gwneud gwaith i archwilio'r berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) a'u heffaith ar broblemau iechyd meddwl mewn plant.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Emily Lowthian o Brifysgol Abertawe a DECIPHER mewn cydweithrediad â'r Athro Ann John, Prifysgol Abertawe ac arweinydd ymchwil ffrwd waith yng Nghanolfan Wolfson a Dr Rebecca Anthony, hefyd o Ganolfan Wolfson a DECIPHER.

Dywedodd Dr Rebecca Anthony "Yn yr astudiaeth, dadansoddwyd data carfan geni o dros 190,000 o blant yng Nghymru, rhwng y flwyddyn 1998 a 2012. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gynnwys byw gyda rhywun oedd â phroblem yn gysylltiedig ag alcohol, problem iechyd meddwl gyffredin neu salwch meddwl difrifol, neu brofi erledigaeth neu farwolaeth aelod o'r cartref. Gan ddefnyddio'r data hwn, buom yn archwilio cysylltiadau rhwng pum ACE unigol a diagnosisau neu symptomau iechyd meddwl plant yn ystod pymtheng mlynedd gyntaf bywyd plentyn."

Roedd y pum diagnosis iechyd meddwl plant a archwiliwyd yn yr astudiaeth yn cynnwys: (i) allanoli symptomau (ymddygiad gwrthgymdeithasol), (ii) mewnoli symptomau (straen, gorbryder, iselder), (iii) oedi datblygiadol (e.e. anabledd dysgu), (iv) arall (e.e. anhwylder bwyta, anhwylderau personoliaeth), ac (v) unrhyw ddiagnosis iechyd meddwl, (cyfuno symptomau allanol, mewnoli symptomau ac eraill).

Roedd yr ymchwil yn dangos bod plant a fagwyd gyda rhywun ag anawsterau iechyd meddwl 63% yn fwy tebygol o brofi rhyw fath o anhawster iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys gorbryder, iselder ysbryd, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhwylderau personoliaeth, ymhlith rhai eraill.
Rebecca Anthony Post-Doctoral Research Associate, DECIPHer

Ychwanegodd yr Athro Ann John: "Roedd y risg gynyddol hon o unrhyw ddiagnosis iechyd meddwl plant yn gysylltiedig yn arbennig ag erledigaeth a byw gydag oedolyn â diagnosis iechyd meddwl cyffredin. Mae hyn yn amlygu'r angen am fesurau polisi a strategaethau ymyrryd i gefnogi plant a'u teuluoedd yn y ffordd orau."

Fel y casglodd Dr Anthony: "Mae'r astudiaeth hon yn dangos pwysigrwydd gwaith cydweithredol a rhyngddisgyblaethol ym maes iechyd meddwl ieuenctid ac mae hefyd yn amlygu ymhellach pam na allai ymchwil Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd, ynghyd â'n partneriaid yn Abertawe, fod yn fwy amserol.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio i wella ymyriadau a chymorth i bobl ifanc a'u teuluoedd sy'n wynebu heriau iechyd meddwl."

Cyhoeddwyd yr astudiaeth, Adverse childhood experiences and child mental health: an electronic birth cohort study, yn BMC Medicine ac mae ar gael ar-lein.

Rhannu’r stori hon