Ewch i’r prif gynnwys

Mesur lles sy'n briodol i'w ddefnyddio gyda phlant mewn gofal

2 Mehefin 2021

children on classroom floor listening to teacher

Mae pobl ifanc mewn gofal yn nodi lles meddyliol is na'u cyfoedion.

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson a DECIPHer wedi rhyddhau papur ar eu hastudiaeth ddiweddaraf yn archwilio lles pobl ifanc mewn perthynas â'u statws gofal cyfredol.

Dan arweiniad Dr Rebecca Anthony, ynghyd â'r Athrawon Graham Moore a Simon Murphy, edrychodd yr astudiaeth ar les pobl ifanc mewn gofal o'u cymharu â'u cyfoedion nad ydynt mewn gofal, gan ddefnyddio'r fersiwn fer ar adnodd asesu Graddfa Lles Meddwl Warwick-Caeredin (SWEMWBS).

“Mae ymchwil ar les meddyliol plant mewn gofal yn brin ac roeddem am archwilio addasrwydd defnyddio adnodd asesu fel SWEMWBS i edrych ar lefelau lles rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed yn gymdeithasol. Roedd ein dadansoddiad yn cefnogi natur anghyfnewidiol SWEMWBS ac yn tynnu sylw at y gwahaniaethau mewn lles rhwng pobl ifanc yn y system ofal a'r rhai y tu allan iddi.”

Rebecca Anthony Post-Doctoral Research Associate, DECIPHer

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr (SHW) Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2017 ac roedd y set ddata derfynol yn cynnwys cyfanswm o 2,795 o gyfranogwyr, gyda 45% ohonynt yn fechgyn.

Roedd y set ddata hon yn cynnwys pob plentyn mewn gofal ac is-sampl o blant nad oeddent mewn gofal a gwblhaodd raddfa SWEMWBS yn llawn ac a atebodd gwestiynau am eu sefyllfa fyw.

Ychwanegodd yr Athro Graham Moore “Mae'r gwaith pwysig hwn yn dangos addasrwydd un adnodd mesur ar gyfer deall lles pobl ifanc mewn gofal. Ond gyda chanlyniadau yn dangos sgoriau lles meddyliol is ar gyfer y rhai yn y system ofal, mae mwy i'w wneud i sicrhau bod pob person ifanc yn cael cefnogaeth effeithiol i'w lles."

I orffen, dywedodd Dr Anthony “Mae'r astudiaeth hon yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod SWEMWBS yn briodol ar gyfer mesur lles meddyliol ymhlith pobl ifanc mewn gofal. Yn ogystal, roedd lles pobl ifanc mewn lleoliadau maeth, perthnasau a phreswyl yn sylweddol is na'u cyfoedion nad oeddent mewn gofal, gan dynnu sylw at yr angen am ymyriadau i hyrwyddo lles meddyliol yn y grŵp hwn."

Cwblhawyd y papur 'Measurement invariance of the short Warwick-Edinburgh Mental Wellbeing Scale and latent mean differences (SWEMWBS) in young people by current care status ' mewn partneriaeth â Chanolfan Wolfson a DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg.

Gellir ei weld ar-lein trwy Springer.

Rhannu’r stori hon