Ewch i’r prif gynnwys

Arweinwyr busnes ac academyddion yn dod ynghyd i fynd i’r afael â heriau economaidd mwyaf dybryd Cymru

11 Mehefin 2021

Mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn gweithio gydag arweinwyr o bob rhan o fyd busnes i ddeall bwlch cynhyrchiant Cymru.

Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru, a gydlynir gan yr Athro Andrew Henley o Ysgol Busnes Caerdydd, yn cynnwys ffigurau allweddol o feysydd diwydiant, ymchwil a pholisi. Mae'r Fforwm wedi'i sefydlu yn rhan o waith y Sefydliad Cynhyrchiant, buddsoddiad newydd gwerth £32m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae cynhyrchiant yn mesur y gwerth sy’n cael ei greu gan bobl pan fyddant yn gweithio. Mae cynhyrchiant uwch yn golygu busnesau sydd wedi'u rheoli'n well ac yn fwy arloesol, cadwyni cyflenwi mwy effeithiol a gwell defnydd o sgiliau a thalentau pobl. Gall arwain at swyddi gwell, gwell ansawdd bywyd a'r wlad yn dod yn fwy llewyrchus fesul person. Mae gan Gymru fwlch cynhyrchiant parhaus o'i chymharu â gweddill y DU, ac mae twf cynhyrchiant ledled y DU wedi arafu’n llwyr yn ystod y degawd diwethaf.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn cwrdd i drafod sut allai Cymru wella ei chynhyrchiant. Bydd papur gwyrdd arfaethedig yn nodi'r heriau allweddol sy'n wynebu busnesau ac i'r rheini sy'n llunio polisi i gefnogi busnes.

Dywedodd yr Athro Andrew Henley: “Rwy’n falch iawn i gefnogi Fforwm Cynhyrchiant Cymru, sy'n dod â chynrychiolwyr o bob rhan o feysydd busnes, polisi a'r byd academaidd ynghyd. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ymchwilio i'r materion sy'n effeithio ar gynhyrchiant ym mhob rhan o Gymru. Ein nod yw cynnig atebion ymarferol fydd yn helpu economi Cymru wrth iddi wella o effeithiau COVID-19. Mae ffocws ar ysgogwyr allweddol cynhyrchiant yn hanfodol os ydym am wella lles a ffyniant y rhai sy'n byw yma.”

Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn un o wyth fforwm rhanbarthol ledled y DU. Mae’r rhain yn rhan o'r Sefydliad Cynhyrchiant, prosiect gwerth £32m, a arweinir gan Ysgol Busnes Alliance Manceinion ym Mhrifysgol Manceinion, sy'n dod ag arbenigwyr ynghyd i ddeall, mesur a galluogi gwelliannau mewn cynhyrchiant.

Dan gadeiryddiaeth Robert Lloyd Griffiths OBE, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, cyfarfu aelodau’r Fforwm yn rhithiol am y tro cyntaf ym mis Ionawr gyda'u hail gyfarfod y mis hwn i ddechrau siapio eu gwaith ac ystyried heriau cynhyrchiant ledled Cymru.

Dywedodd Mr Griffiths: “Mae cynhyrchiant uwch yn allweddol i ddatgloi ein potensial economaidd gyda busnesau sydd wedi’u rheoli’n well ac sy'n fwy arloesol. Bydd y Fforwm yn sicrhau gwir werth gyda thrafodaethau a gweithredu o safon uchel fydd yn cael effaith sylweddol ar y drafodaeth economaidd wrth i ni geisio ailadeiladu ac ail-bwrpasu ein heconomi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

“Fel rhywun sy’n credu’n angerddol mewn creu cyfle i bawb a gwneud Cymru yn lle gwell, rwy’n falch iawn i Gadeirio’r fforwm newydd ac yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag arweinwyr

busnes ac academyddion mor dalentog ac ymroddedig i wneud i hyn ddigwydd. Mae'r ewyllys gennym ni eisoes, nawr mae'n bryd dod o hyd i'r ffordd i'w gyflawni."

Ychwanegodd Cynthia Ogbonna, cyn Reolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd: “Rwy’n falch i fod yn gweithio gyda thîm aml-dalentog ac amrywiol yn edrych ar y ffactorau sydd i gyfrif am y bwlch cynhyrchiant yng Nghymru. Ar ôl gweithio mewn swyddi uwch yn y sectorau gweithgynhyrchu a chludiant yng Nghymru, rwy'n ymwybodol o effeithiau cynhyrchiant isel nid yn unig ar berfformiad ariannol sefydliadol cyffredinol ond hefyd ar gyflog gweithwyr, lles, sgiliau a chymwyseddau penodol yn y dyfodol.

“Rwy’n credu y bydd y prosiect hwn yn cynnig rhai atebion ymarferol ac yn tynnu sylw at gamau allweddol y gellir eu cymryd i wella lefelau sgiliau yn y sector gweithgynhyrchu a sectorau eraill yng Nghymru mewn ffyrdd fydd yn cyfrannu at ein cynaladwyedd tymor hir.”

Ariennir y Sefydliad Cynhyrchiant gan yr ESRC yn rhan o'i fuddsoddiad unigol mwyaf i ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol. Mae ESRC yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaethau Diwydiannol (BEIS).

The Productivity Institute and Wales Productivity Forum Overview

Rhannu’r stori hon