Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd o Gaerdydd yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran rhywedd mewn ffiseg

15 Gorffennaf 2021

word cloud for girls in stem
Word cloud by girls 11-16 when asked for three words to describe STEM jobs.

Dewiswyd darlithydd ffiseg o Gaerdydd i gynrychioli'r DU mewn cynhadledd fyd-eang yn canolbwyntio ar Fenywod mewn Ffiseg, yn dilyn ei rôl bwysig fel llysgennad yn y maes.

Dewiswyd Wendy Sadler, darlithydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, i fod yn rhan o dîm y DU mewn cynhadledd ryngwladol bwysig (ar-lein) - 7fed Cynhadledd Ryngwladol IUPAP ar Fenywod mewn Ffiseg, a gynhaliwyd ar 11-16 Gorffennaf eleni.

Yr Undeb Rhyngwladol Ffiseg Pur a Chymhwysol (IUPAP) yw'r unig sefydliad ffiseg rhyngwladol sy'n cael ei drefnu a'i redeg gan y gymuned ffiseg ei hun. Fe'i sefydlwyd ym 1922, a'i aelodau yw cymunedau ffiseg cydnabyddedig mewn gwledydd neu ranbarthau ledled y byd.

Mae IUPAP wedi cydnabod angen penodol i feithrin cyfranogiad menywod mewn ffiseg a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned ffiseg, a dyna'r rhesymau pam y sefydlwyd y Gynhadledd Ryngwladol bwysig hon ar Fenywod mewn Ffiseg.

Roedd y gynhadledd yn ddigwyddiad gwirioneddol ryngwladol ac yn cynnwys dros 55 o wledydd, yn uno i drafod heriau i fenywod sy'n ymwneud â Ffiseg heddiw.

Dywedodd Sadler:

"Fel rhan o'r gynhadledd, roeddwn i'n gweithio ar argymhellion byd-eang ar gyfer annog menywod i mewn i ffiseg gyda ffisegwyr o Madagasgar a Nigeria. Mae'n hynod ddiddorol ac ysbrydoledig cael cwrdd â menywod mor rhyfeddol!

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynais boster am ystyriaethau a mentrau cyfredol y DU, ac un arall yn ymwneud â fy ymchwil gyda'r Brifysgol Agored ar annog merched i ystyried gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth.

Teitl cyflwyniad Sadler oedd ‘People like me: encouraging girls to see themselves in STEM careers’.

Mae People Like Me yn weithgaredd ymyrryd i ferched 11-16 oed a ddatblygwyd gan ymgyrch WISE (Women into Science and Engineering) i gefnogi'r cynnydd yn y nifer o fenywod mewn addysg a gyrfaoedd STEM. Mae felly'n rhan o draddodiad hir o ymdrechion - yn y DU ac yn fyd-eang - i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran rhywedd wrth astudio pynciau STEM.

Y craidd yw'r cysyniad y bydd codi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o yrfaoedd a swyddi posibl mewn STEM yn annog merched i barhau i astudio pynciau gwyddonol yn yr ysgol, gan anelu at yrfaoedd yn y sectorau hyn.

Mae prosiect People Like Me yn defnyddio ymagwedd newydd, gan ganolbwyntio nid ar yr hyn mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn ei wneud, ond pa fath o bobl ydyn nhw mewn gwirionedd. Yn y sesiynau mae'r merched yn gwneud cwis i asesu eu cryfderau a'u nodweddion naturiol, ac yna'n cysylltu'r rhain a'u modelau rôl posib.

Yn rhyfeddol, canfuwyd bod gan 57% o ferched fwy o ddiddordeb mewn astudio pynciau STEM ar ôl yr ymyrraeth yrfaol hon ar sail rhywedd, oedd yn canolbwyntio ar sgiliau.

Dewiswyd Sadler i gynrychioli'r DU yn 7fed Gynhadledd Ryngwladol IUPAP ar Fenywod mewn Ffiseg fel rhan o ddirprwyaeth y Sefydliad Ffiseg (IOP) dan arweiniad yr Athro Sally Jordan o'r Brifysgol Agored.

Roedd hyn yn bennaf oherwydd y gwaith rhagorol roedd hi wedi'i gyflawni ar ran ffiseg Prifysgol Caerdydd a'u dyfarniad Hyrwyddwr Prosiect Juno.

Roedd ei gwaith ar Brosiect Juno yn hanfodol gan ei fod yn 'cydnabod ac yn gwobrwyo adrannau ac ysgolion ffiseg, athrofeydd a sefydliadau sydd wedi gweithredu i fynd i'r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd mewn ffiseg ac annog arfer gorau i'r holl staff'.

Ymhellach, roedd yn deimladwy iawn gan mai Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd oedd y gyntaf yng Nghymru i ennill statws Hyrwyddwr Juno.

Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd Sadler, sydd hefyd yn rhan o fwrdd Menywod mewn STEM Llywodraeth Cymru:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at helpu i lunio’r argymhellion a gaiff eu defnyddio'n fyd-eang ar Fenywod mewn STEM o'r trafodaethau a gafwyd ac rwy'n gobeithio cyflwyno'r dysgu i fwrdd Menywod mewn STEM Llywodraeth Cymru er mwyn i ni gael budd uniongyrchol yma yng Nghymru hefyd."

Wendy Sadler presenting her XX factor show about unsung female heroes of science to school students.
Wendy Sadler presenting her XX factor show about unsung female heroes of science to school students.