Ewch i’r prif gynnwys

Mentora ar gyfer 240 o ddisgyblion ffiseg TGAU

17 Ebrill 2019

Students taking part in physics lesson 2

Mae myfyrwyr o bum prifysgol yng Nghymru yn mentora cannoedd o ddisgyblion sy’n astudio ffiseg TGAU ar draws Cymru.

Nod y prosiect yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ffiseg Safon Uwch, a merched yn arbennig.

Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y gwaith, ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a De Cymru.

Mae myfyrwyr o’r prifysgolion hyn yn cael eu hyfforddi er mwyn cefnogi tua 240 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n ariannu’r gwaith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith mentora yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn a hydref 2019 ac yn cynnwys hyd at 12 ysgol.

Bydd mentora merched yn flaenoriaeth gan eu bod yn cynrychioli 21.5% yn unig o ddisgyblion ffiseg Safon Uwch Cymru a llai na dau allan o ddeg myfyriwr ffiseg amser llawn ym mhrifysgolion Cymru.

Mae’r mentoriaid yn astudio amrywiaeth eang o bynciau fel ffiseg, astroffiseg, datblygu gemau cyfrifiadurol a pheirianneg mecanyddol, awyrennol, ac electronig.

Bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiant cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru lle mae disgyblion ar draws Cymru yn cael eu mentora mewn ieithoedd tramor gan fyfyrwyr o brifysgolion Cymru.

Dywedodd Dr Chris North, arweinydd y prosiect o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Ein nod yw cynyddu nifer y bobl ifanc, merched yn arbennig, sy’n dewis pynciau STEM a ffiseg ar ôl troi’n 16 mlwydd oed.

"Rydym yn gobeithio hybu eu hyder a dangos bod cymhwyster mewn ffiseg yn agor llawer o ddrysau.

“Mae mor bwysig i’n gwlad bod pobl ifanc yn cael eu hannog i astudio yn y maes hwn gan mai nhw fydd y gwyddonwyr a allai helpu i ddatrys rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu ein cymdeithas, mewn meysydd fel iechyd, peirianneg a’r amgylchedd.

Students taking part in physics lesson 1

The mentoring of girls will be a priority because they account for just 21.5% of physics A-Level entries in Wales, and less than two out of 10 full-time physics students in Welsh universities.

The mentors are studying a broad range of subjects such as physics, astrophysics, computer games development and mechanical, aeronautical and electronic engineering.

The project will build upon the success of a Welsh Government-funded scheme in which pupils from across Wales are mentored in modern foreign languages using students from Welsh universities.

Project Lead Dr Chris North, from Cardiff University’s School of Physics and Astronomy, said: “Our aim is to increase the number of young people, particularly girls, choosing STEM subjects and physics post-16.

“We hope to boost their confidence and show that a physics qualification opens many doors.

“It’s so important for our country to encourage young people in this field as they will become the scientists who can help solve some of the great challenges facing our society in areas such as health, engineering and the environment.

Dyma enghraifft wych o sut y gall gwaith prifysgolion Cymru fod o les i’w cymunedau yn rhan o’u ‘cenhadaeth ddinesig’.

Dr Chris North Undergraduate Admissions Tutor, Ogden Science Lecturer, STFC Public Engagement Fellow

Dywedodd Isabelle Boreham, mentor sy’n astudio peirianneg fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae astudio pwnc STEM fel ffiseg Safon Uwch yn gosod y sylfeini i rywun ifanc chwarae rôl bwysig ac allweddol yn ein cymdeithas yn y dyfodol, boed drwy astudio peirianneg, ffiseg pur, neu unrhyw radd neu brentisiaeth sy’n gysylltiedig â phynciau STEM.”

Dywedodd Lowri Evans, athrawes Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth ym Mhowys: "Mae’r ysgol yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma, gan bydd y disgyblion yn ennill sgiliau hollbwysig bydd yn help mawr iddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Er mwyn codi safonau yn rhan o’n cenhadaeth genedlaethol mae’n hanfodol ein bod yn dwysáu a chryfhau'r cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru, eu myfyrwyr a'n hysgolion. Yn rhan o’r addewid allweddol yn fy nghytundeb blaengar gyda'r Prif Weinidog rydym eisiau ehangu cynlluniau mentora israddedig mewn gwyddoniaeth, yn ogystal ag ieithoedd a thechnoleg.

"Mae cynlluniau o'r fath yn hanfodol i wella ymgysylltiad dinesig prifysgolion. Dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth, trwy CCAUC, wedi buddsoddi yn y cyfle cyffrous hwn i fyfyrwyr rannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u brwdfrydedd am wyddoniaeth a thechnoleg.

"Mae gan ein prifysgolion gyfrifoldeb arbennig fel goruchwylwyr eu cymuned. Bydd ymwneud mwy ag ysgolion, a gwneud pynciau fel ffiseg mor ddiddorol ac ysgogol â phosib, yn helpu i ysbrydoli a chymell brwdfrydedd sy'n arwain at ddyfodol newydd, cyfleoedd newydd a gorwelion newydd i'n holl bobl ifanc.

"Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Rhaglen Mentora Ffiseg i chwalu’r rhwystrau rhagdybiedig am bynciau STEM, fel bod ein holl ddisgyblion yn gallu gwerthfawrogi'r cyfleoedd y gall astudiaethau a gyrfaoedd STEM eu cynnig."

Dywedodd Dr Alyson Thomas, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid yn CCAUC: “Ni allwn danbrisio’r effaith gadarnhaol y gallai prifysgolion ei chael ar genedlaethau o wyddonwyr y dyfodol drwy gynlluniau fel yr un hwn. Bydd profiad yr israddedigion o gymryd rhan o fudd iddynt hefyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd disgyblion o bob oedran yn mwynhau cymryd rhan yn y cynllun dwyieithog, ac rydym yn arbennig o gyffrous ynghylch y dylanwad y bydd y myfyrwyr sy’n fodelau rôl yn ei gael ar ferched sy’n ymddiddori mewn pynciau STEM. Roedd y rhaglen hon yn gweddu’n dda i gronfa ein cenhadaeth ddinesig, sy’n annog ymgysylltu cymunedol ag ysgolion.”

Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru: “Fel sector, rydym yn croesawu'r Prosiect Mentora Ffiseg. Mae'r prosiect arloesol hwn yn adeiladu ar y gwaith mentora llwyddiannus y mae prifysgolion wedi'i wneud mewn iaith fodern. Mae’n dangos cyfraniad pwysig a gwerthfawr prifysgolion mewn ysgolion a chymunedau yng Nghymru yn rhan o'u cenhadaeth ddinesig.”

Students taking part in physics lesson

Dr Alyson Thomas, Director of Policy and Funding at HEFCW, said: “We can’t underestimate the positive impact of universities on future generations of scientists through schemes such as this one, and the experience that undergraduates will get from it.

“We hope that pupils of all ages will be enthused by taking part in the bilingual scheme, and we are particularly excited about the influence the student role models will have on girls interested in STEM subjects. This programme was a great fit for our civic mission fund, which encourages community engagement with schools.”

Amanda Wilkinson, Director of Universities Wales, said: “As a sector, we welcome the delivery of the Physics Mentoring Project. This innovative project builds upon the successful mentoring work universities have done in modern language and demonstrates the important and valuable contribution that universities make to schools and communities in Wales as part of their civic mission.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.