Ewch i’r prif gynnwys

Gweinidog yn cydnabod gwaith Canolfan Wolfson

2 Rhagfyr 2020

National Assembly for Wales
National Assembly for Wales, Cardiff Bay

Mae ymchwil o Ganolfan Wolfson newydd sbon Prifysgol Caerdydd ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl ifanc wedi amlygu bod 80% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau'n ifanc.

Bydd y Ganolfan Wolfson, canolfan ymchwil gyda ffocws a thîm rhyngddisgyblaethol o'r meysydd gofal iechyd, addysg ac academaidd, yn canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.

Mae ymchwil hanfodol y ganolfan sydd newydd ei hagor eisoes wedi cael ei hamlygu gan Weinidog Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, a ailadroddodd wrth siarad yn y Senedd y ganran uchel bryderus o bobl y gall eu problemau iechyd meddwl ddechrau pan fyddant yn blant neu yn ystod glasoed.

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio blaenoriaethu ymyrraeth a chefnogaeth gynnar wrth helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau â'u lles meddyliol.

Nod Canolfan Wolfson yw datblygu a gwerthuso ymyriadau newydd, gwella iechyd meddwl a lles tymor hir y boblogaeth a chydweithio ar draws sectorau i gael effaith ar bolisi ac arfer a fydd yn gwella sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu cefnogi.

Rydym yn falch o glywed Llywodraeth Cymru'n cyfeirio at waith Canolfan Wolfson yn barod, a’r effaith rydym yn gobeithio y bydd ei gwaith yn ei chael ar fywydau pobl ifanc pobl yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod.
Yr Athro Frances Rice Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Rhannu’r stori hon

These are some of the University projects that your donations help make happen.