Ewch i’r prif gynnwys

Hanes mentergarwr ifanc

14 Awst 2020

Young man in forest surroundings

Mae hanes masnachol myfyriwr sy’n astudio cwrs BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i gyflwyno ar wefan newyddion busnes yn ne-orllewin Lloegr.

Holwyd Olli Smith, a fydd yn dechrau ei flwyddyn olaf fis Medi 2020, yn ddiweddar am sefydlu gwasanaeth dosbarthu taflenni a phapurau newydd pan oedd yn ei arddegau, a’i uchelgais o ran ei fenter ddiweddaraf, Solus Supply.

Ac yntau ond 13 oed, roedd yr egin fasnachwr wedi dosbarthu ymhlith ychydig o gwmnïau lleol gardiau busnes cwmni dosbarthu taflenni roedd yn bwriadu ei sefydlu, Door2Door.

Ysgrifennodd Olli ar y cardiau fod ei wasanaeth yn un ‘rhad, gonest a chyflym’, gan ei ddisgrifio ei hun yn gyfarwyddwr rheoli. Anghofiodd am y cardiau wedyn nes i asiant eiddo lleol ei ffonio a’i wahodd i’w swyddfa.

Olli Smith's first business card

“Dyma fi, dim ond 13 oed, yn eistedd gyferbyn dyn mewn siwt yn ystafell eu cyfarfodydd. Ymddangosai ei fod yn dâl iawn o’i gymharu â fi. Yn ôl pob golwg, allai e ddim credu pa mor ifanc oeddwn i.”

Olli Smith BSc Rheoli Busnes

Nid am y tro cyntaf yn ei oes fer - mae’n 22 oed bellach - llwyddodd Olli i daro bargen. Dosbarthu 1,500 o daflenni am £85.

Arweiniodd at ragor o waith i Olli a benderfynodd godi tâl ychwanegol am fynd ag un daflen i dŷ yn hytrach na nifer ohonyn nhw.

Ar ôl ailenwi ei gwmni’n Solus Distribution, aeth ati i hel rhagor o gwsmeriaid ledled y fro a, maes o law, roedd yn dosbarthu deunydd ar ran 25 o gwmnïau mawr a bychain yn ei filltir sgwâr.

Ar ei anterth, roedd tri gweithiwr arall yn y cwmni. Drwy gydol hynny, roedd Olli yn astudio ar gyfer arholiadau TGAU ac, wedyn, y Safon Uwch. Mae e wedi darllen llawer o lyfrau busnes ers ei arddegau.

Meddai: “Mae llyfr Alan Sugar, ‘What You See Is What You Get’, wedi fy ysgogi’n fawr. A hynny trwy gynnau tân mentergarwch ynof. Darllenais lyfrau busnes eraill wedyn, megis ‘Steve Jobs’ gan Walter Isaacson a ‘Screw It, Just Do It’ gan Richard Branson.”

Gorffennodd Solus Distribution fasnachu yn 2017. Penderfynodd Olli na fyddai’n gallu cynnal y cwmni yn ogystal ag astudio ar gyfer gradd rheoli busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd e wedi sefydlu cwmni arall o’r enw Solus Supply yn 2013 i werthu dillad, fodd bynnag.

Meddai: “Rwy’n hoffi prynu dillad fy hun. Fe welais fod mwy a mwy o alw am ddillad dilys o safon. Dechreuais fasnachu trwy Facebook, Instagram ac eBay ond rwy’n gweithio trwy wefan y cwmni erbyn hyn.”

Mae’r cwmni’n cynnig dillad megis crysau T, siwmperi ac amryw fathau o siacedi. Yn ogystal â gwerthu dillad o dan enw ei gwmni ei hun, mae’n cynnig brandiau megis Marino Morwood a Nike.

“Daw tua 40% o’r archebion o’r deyrnas yma a’r gweddill o dramor gan gynnwys tua 20% o Asia. Mae’n eithaf anodd cadw’r peli i gyd yn yr awyr am fy mod newydd dreulio blwyddyn yn y byd masnachol yn rhan o’m cwrs ac, felly, fy nhad sy’n gweinyddu’r busnes am y tro...”

“Rydyn ni’n defnyddio cynhyrchion cotwm eildro ac yn ceisio defnyddio pecynnau ac arferion cynaladwy lle bo modd i gwtogi ar garbon. Fy uchelgais yn y pen draw yw gweithio ar fy liwt fy hun a gadael fy ôl ar y byd er gwell. Rwyf i am wella bywydau, nid dim ond codi elw.”

Olli Smith BSc Rheoli Busnes

Cyflwynodd Olli gais am arian yn ddiweddar i Dîm Menter a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd. Ynghyd â nifer o fyfyrwyr eraill, cafodd gymorth trwy ‘Gronfa’r Camau Cyntaf’, a defnyddiodd yr arian i hyrwyddo gwefan Solus Supply trwy gyfrwng Facebook, Google ac Instagram.

Ble bynnag rydych chi yn eich datblygiad masnachol, gall Tîm Menter a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd eich helpu i feithrin medrau sefydlu cwmni, gweithio ar eich liwt eich hun ac arloesi.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which we will support you career aspirations.