Ewch i’r prif gynnwys

Gadewch i'r celloedd imiwnedd weld y feirws: Gwyddonwyr yn darganfod ffordd unigryw o dargedu feirws cyffredin

15 Chwefror 2021

Stock image of virus cells

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod ffordd unigryw o dargedu feirws cyffredin sy'n effeithio ar un o bob 200 o fabanod newydd-anedig yn y DU. Mae’r triniaethau ar eu cyfer yn gyfyngedig.

Mae sytomegalofeirws dynol (HCMV) yn feistr ar "guddio" oddi wrth system imiwnedd y corff fel na all gwrthgyrff na chelloedd-T ymosod arno fel y maent yn ymosod ar feirysau eraill, fel y coronafeirws presennol.

Mae'r ymchwilwyr bellach wedi darganfod math newydd o wrthgorff yn y labordy sy’n marcio celloedd wedi’u heintio fel y gall y system imiwnedd eu "gweld", yn hytrach na lladd y feirws yn uniongyrchol.

Unwaith y gall y system imiwnedd weld y celloedd wedi’u heintio, mae’n gallu lladd y feirws.

Mae'r tîm wedi cyflwyno patent ar gyfer yr imiwntherapiwtig unigryw ac yn gobeithio y gall helpu i drin HCMV, sy'n gallu achosi anabledd difrifol mewn babanod newydd-anedig neu eu lladd hyd yn oed.

Mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol mewn pobl – ond mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y gellir defnyddio'r dechneg yn y pen draw i drechu clefydau heintus eraill.

Maent hefyd yn gobeithio y gellir cymhwyso eu dull o ddarganfod y gwrthgorff er mwyn mynd i’r afael â chanser.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y Journal of Clinical Investigation.

Dywedodd Dr Richard Stanton, yr awdur arweiniol a feirolegydd yn Isadran Haint ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd: "Mae HCMV yn cynnig her sylweddol gan ei fod wedi datblygu ystod o wahanol dechnegau er mwyn osgoi ymateb imiwnedd y corff ei hun.

"Rydym wedi datblygu ffordd unigryw sy’n galluogi’r system imiwnedd i weld y feirws fel y gall fynd ati i’w ladd."

Mae HCMV yn achosi haint gydol oes mewn pobl ac mae'n achos sylweddol o glefyd difrifol neu farwolaeth mewn unigolion ag imiwnedd gwan, fel y rhai sy'n cael trawsblaniadau neu bobl â HIV.

Mae brechlyn yn hollbwysig ar gyfer trechu’r feirws, yn enwedig ar gyfer mynd i’r afael â chlefyd cynhenid. Fodd bynnag, nid oes brechlyn yn bodoli ar hyn o bryd ac mae’r triniaethau’n gyfyngedig.

Yn yr astudiaeth hon, roedd yr ymchwilwyr yn gweithio i weld a oedd hi’n bosib defnyddio gwenwynder cellog sy’n ddibynnol ar wrthgyrff (ADCC) – math penodol o ymateb imiwnedd lle mae cell darged wedi'i gorchuddio â gwrthgyrff ac yn cael ei lladd gan gelloedd imiwnedd – at ddefnydd therapiwtig.

Fe ddefnyddion nhw ddull arbennig (proteomeg) i nodweddu’r moleciwlau ar arwyneb y gell wedi’i heintio ac yna ei gyfuno â sgrinio imiwnlegol i nodi targedau ar gyfer ADCC.

Darganfyddon nhw darged unigryw sy’n cael ei fynegi yn gynnar yng nghylch bywyd y feirws ac yna roeddent yn gallu datblygu gwrthgyrff dynol i'w defnyddio yn erbyn y targed hwn.

Yn y labordy, arweiniodd hyn at actifadiad grymus o ADCC, gan ladd y celloedd wedi’u heintio.

"Mae nodi targedau ADCC newydd yn creu dealltwriaeth fwy cyflawn o imiwnedd naturiol yn erbyn

HCMV y gellir ei defnyddio er budd therapiwtig. Yn ogystal, gellir cymhwyso hyn i glefydau heintus eraill – a gallai'r mecanwaith a ddefnyddion ni i nodi'r gwrthgyrff newydd weithio ar gyfer canser hefyd o bosibl," meddai Dr Stanton.

"Mae angen gwneud rhagor o waith yn awr i ddangos ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol mewn pobl."

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.