Ewch i’r prif gynnwys

PhD Insights: Synwyryddion ar y safle a gwyddonwyr dinesig er mwyn monitro ansawdd dŵr afonydd yn effeithiol

8 Chwefror 2021

Riversunset

Mae'r myfyriwr PhD Elle von Benzon yn cyfranogi yn natblygiad synhwyrydd di-wifr cost uchel, hygyrch i wyddonwyr dinesig, a fydd yn monitro ansawdd dŵr afonydd mewn amser go iawn.

Yn 2020, adroddodd Asiantaeth yr Amgylchedd nad oedd yr un o’r afonydd a gafodd eu monitro yn Lloegr wedi bodloni’r safonau ansawdd newydd cemegol a bennwyd ar gyfer dŵr.

Credir bod y monitro ar ansawdd dŵr ar draws dalgylchoedd afonydd y Deyrnas Unedig gan gyrff rheoleiddio yn annigonol ar hyn o bryd i ganiatáu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r llu o faterion sy’n effeithio ar ddalgylchoedd. Nid yw’r technegau a ddefnyddir ehangaf yn caniatáu casglu data yn ddigon mynych.

Mae ansawdd afonydd yn amrywio fesul munud neu fesul awr, ond mae technegau ‘cipio samplau’ cyffredin yn dadansoddi samplau fesul wythnos, fesul mis neu’n llai aml na hynny. O ganlyniad, ni sylwir yn aml ar achosion allweddol o halogi a digwyddiadau pwysig eraill sy’n effeithio ar ansawdd dŵr afonydd.

Mae synwyryddion ar y safle yn ddewis amgen i dechnegau cipio samplau, ac maent yn golygu bod modd monitro ystod o baramedrau ansawdd dŵr yn barhaus. Mae rhwydweithiau o synwyryddion di-wifr yn awr hefyd yn cysylltu synwyryddion ansawdd dŵr â phlatfformau ar-lein, sy’n golygu bod modd gweld y data o bell mewn amser go iawn. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o synwyryddion sydd ar gael yn fasnachol yn ddrud, ac felly nid ydynt yn cael eu defnyddio’n eang.

Fel rhan o’i gwaith ymchwil, mae’r myfyriwr PhD Elle von Benzon, o Grŵp Ymchwil Hinsawdd Oer Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, yn rhan o’r gwaith i ddatblygu synhwyrydd di-wifr cost isel sy’n cael ei alw’n ‘Hydrobean'. Bydd yr offeryn newydd hwn yn helpu i ganfod statws ansawdd dŵr a rhagfynegi digwyddiad achosion o halogi trwy drosglwyddo data ansawdd dŵr amser go iawn, gan gynnwys dargludedd trydanol, tymheredd a phwysedd, i blatfform ar-lein.

Hydrobean 2
Prototeip yr Hydrobean © Elle von Benzon
Hydrobean
Gorsaf ganolog yr Hydrobean © Elle von Benzon

Lluniwyd Hydrobean yn benodol i’w ddefnyddio gan wyddonwyr dinesig, a bydd yn hygyrch i gymunedau sy’n ceisio asesu ansawdd dŵr yn nalgylchoedd eu hafonydd lleol. Mae gwyddonwyr dinesig yn cynyddu’r capasiti monitro’n aruthrol ac yn golygu bod modd asesu ansawdd dŵr mewn llawer mwy o safleoedd nag sy’n bosibl gyda gwyddonwyr proffesiynol yn unig. Mae Elle yn gweithio gyda gwyddonwyr dinesig i ddeall manteision a chyfyngiadau rhaglenni cyfredol sy’n monitro ansawdd dŵr.

Meddai: “Mae’n wych gweithio gyda gwyddonwyr dinesig ac ymddiriedolaethau afonydd sy’n angerddol o blaid diogelu a gwella iechyd eu hafonydd a’u nentydd lleol. Mae cael hyd i ddulliau sy’n darparu setiau data ystyrlon ond hefyd yn bodloni gofynion rhaglenni monitro cymunedol yn her gyffrous i fod yn rhan ohoni.’’

Mae’r Hydrobean yn cael ei brofi ar hyn o bryd yn nentydd Cymru. Wrth i’r ymchwil symud ymlaen, bydd y synhwyrydd yn cael ei dreialu ar draws dalgylch afon Tamar, gyda gwyddonwyr dinesig gwirfoddol o’r Westcountry Rivers Trust.

I wybod mwy am waith Elle, cysylltwch â hi ar vonbenzonem@cardiff.ac.uk.