Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar waith PhD: Pontio'r bwlch rhwng bioleg a pheirianneg

11 Mai 2020

Riverflowing1

Mae'r myfyriwr PhD, Stephanie Mueller, yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n archwilio ymatebion pysgod i'r addasiadau mewn llif a achosir gan dyrbinau a rhwystrau rhidyllog mewn systemau afonol.

Dim ond 1% o afonydd y Deyrnas Unedig sy'n dal i lifo'n rhydd ar hyn o bryd (Jones et al 2019). Mae strwythurau newydd artiffisial yn cael eu hychwanegu ar systemau afon er mwyn harneisio ynni cynaliadwy a lleihau llifogydd. Mae'r strwythurau hyn yn newid yr ecosystem ac yn dylanwadu ar ddewisiadau cynefin a pherfformiad nofio pysgod, yn aml gan oedi mudo neu ei atal. Gwelir y newidiadau yn nhrefn aflonydd y llif a gall y rhain fod yn fuddiol neu'n niweidiol i bysgod.

Myfyriwr PhD yn yr Ysgol Peirianneg yw Stephanie. Mae ei gwaith ymchwil yn archwilio ymatebion pysgod i newidiadau yn y llif mewn systemau afonol a’i phrif ffocws yw’r addasiadau a achosir gan ddau strwythur anthropogenig, sef rhwystrau rhidyllog a ddefnyddir i reoli llifogydd yn naturiol, a thyrbinau echel fertigol.

Drwy arbrofion yn ffosydd a chyfleusterau pysgod Prifysgol Caerdydd ac yn labordy'r Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol, mae hi'n ymchwilio i effaith newidiadau yn y llif ar berfformiad nofio pysgod a defnydd gofodol eogiaid ifainc. Bydd ei harsylwadau'n darparu gwybodaeth newydd am ymddygiad pysgod ac addasu cynefinoedd mewn perthynas â chynlluniau pŵer a chynlluniau lleihau llifogydd. Bydd hyn yn helpu i feithrin dulliau cynaliadwy, cydnaws â'r amgylchedd o ddatblygu a gosod tyrbinau ac ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol.

StephanieMuller
Stephanie (ar y dde) a'i chyd-fyfyriwr PhD, Rhiannon Hunt (ar y chwith) o Ysgol y Biowyddorau yn y Gweithdy Rhyngwladol i Fyfyrwyr PhD a Chymrodorion Ôl-ddoethurol ar Eogiaid Anadromaidd.

Mae gwaith rhyngddisgyblaethol Stephanie yn rhan o ddisgyblaeth a elwir yn Ecohydroleg, sy'n cysylltu hydroleg ag ecoleg dŵr, peirianneg dŵr, bioddaeargemeg a geomorffoleg afonydd. O ganlyniad mae hi'n cydweithio'n agos ag ymchwilwyr o Ysgol y Biowyddorau.

Mae croesi'r bont rhwng bioleg, ecoleg a pheirianneg yn caniatáu i mi ddysgu mwy am y berthynas rhwng effeithiau hydrodeinamig strwythurau hydrolig a'r fflora a'r ffawna dyfrol.

Stephanie Mueller, Myfyriwr PhD

Er mwyn llwyr ddeall ei gwaith ar strwythurau hydrolig mewn llif a'u goblygiadau ecolegol i'r amgylchedd dyfrol, mae Stephanie yn dilyn cwrs rheoli pysgodfeydd yn y Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd ar hyn o bryd, ochr yn ochr â'i PhD.

Ariannir ymchwil Stephanie gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol WISE. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ei gwaith yma neu mae croeso i chi gysylltu â hi yn y cyfeiriad MullerS1@caerdydd.ac.uk.

Jones et al (2019) A comprehensive assessment of stream fragmentation in Great Britain, Sci. Total Environ, 673, 756–76