Ewch i’r prif gynnwys

Cadarnheir buddion tŷ ynni-positif fforddiadwy cyntaf y DU

4 Chwefror 2021

SOLCER House
SOLCER House

Gellid arbed hyd at £1,000 y flwyddyn ar filiau ynni trwy fyw yn nhŷ ynni positif cyntaf y DU, mae ymchwilwyr wedi dangos.

Dywed y tîm o Brifysgol Caerdydd fod y tŷ yn allbynnu 1.3 gwaith mwy o drydan i'r grid nag y mae'n ei ddefnyddio dros flwyddyn, gan arwain at allyriadau carbon net negyddol ar y cyfan, sy'n cyfateb i oddeutu -179 kg y flwyddyn.

Mae'r tîm wedi cyflwyno eu canfyddiadau mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Energies.

Wedi'i adeiladu yn 2015, Tŷ SOLCER oedd y tŷ ynni-positif fforddiadwy cyntaf i gael ei adeiladu yn y DU ac fe'i cynlluniwyd i gynhyrchu mwy o ynni dros flwyddyn nag sydd ei angen i wresogi, awyru, goleuo a phweru dyfeisiau yn yr adeilad.

Adeiladwyd y tŷ 100m2, tair ystafell wely gan ddefnyddio deunyddiau lleol lle bynnag y bo modd ar gost o £1,200 /m2 a mabwysiadodd 'ddull systemau tŷ cyfan' sy'n ymgorffori technolegau ar gyfer cynhyrchu ynni trydanol a thermol yn y dyluniad pensaernïol.

Er enghraifft, mae'r paneli solar ffotofoltäig yn ffurfio'r to sy'n wynebu'r de, gan leihau'r angen am deils to, tra bod system gwresogi aer solar yn ffurfio arwyneb y wal allanol ar y llawr cyntaf yn lle rendr traddodiadol.

Dewiswyd pob un o'r technolegau newydd a ddefnyddir yn y tŷ i weithio gyda'i gilydd a gweithredu fel un system i ddarparu gwres a dŵr poeth domestig.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn monitro'r tŷ yn barhaus bob pum munud gan ddefnyddio synwyryddion sydd wedi'u hintegreiddio i'r adeilad a'r technolegau, gan roi cyfoeth o ddata i'r ymchwilwyr bori drwyddo.

Mae efelychiadau hefyd wedi cael eu rhedeg gan ddefnyddio modelau sydd wedi'u datblygu a'u gwella gan Brifysgol Caerdydd dros y 40 mlynedd diwethaf, gan ganiatáu i'r tîm ddeall perfformiad thermol blynyddol yr adeilad bob awr, gan gyfuno data tywydd lleol, manylion codi adeiladau a phroffiliau deiliadaeth.

Mae dadansoddiad wedi dangos bod y tŷ, o dan ddeiliadaeth arferol, yn mewnforio tua 25% o'i ynni o'r grid, yn bennaf i ddiwallu anghenion gwresogi yn ystod misoedd oerach, ond dros y flwyddyn mae 1.3 gwaith y swm y mae'n ei fewnforio yn cael ei allforio yn ôl i'r grid, felly cael effaith bositif ar y cyfan.

1112 kWh yw cyfanswm blynyddol y trydan sy'n cael ei fewnforio o'r grid, o gymharu â'r gwerth a allforir, sef 1458 kWh, gan roi perfformiad ynni-positif o 346 kWh.

“Mae ein hymchwil wedi dangos sut y gall cyfuniad o fodelu ynni a monitro manwl arwain at well dealltwriaeth o berfformiad adeilad. Mae hyn yn bwysig iawn wrth i ni gyfuno cydrannau ynni isel unigol yn systemau cyfan” meddai Dr Jo Patterson o Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd.

“Ein nod oedd cadw'r costau adeiladu yn fforddiadwy, er mwyn darparu rhywbeth i'r farchnad dai ei efelychu, yn enwedig tai cymdeithasol, lle gall costau ynni isel fod o fudd enfawr i breswylwyr.”

Ers adeiladu Tŷ SOLCER, mae ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi arwain Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £91 miliwn mewn grantiau i ddatblygwyr awdurdodau preifat a lleol. Mae hyn wedi gweld adeiladu dros 1,400 o dai fforddiadwy a charbon isel, llawer ohonynt yn seiliedig ar dechnolegau a arddangosir yn Nhŷ SOLCER.

Ddydd Mawrth 9 Chwefror, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad lle bydd Dr Patterson a gwesteiwr Grand Designs, Kevin McCloud MBE, yn trafod sut y gellir gwireddu tai cynaliadwy i bawb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol hon yn unigryw oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â chanolbwyntio ar greu, ei phortffolio ymchwil, calibr ei staff a'i lleoliad unigryw.