Ewch i’r prif gynnwys

Tŷ ynni carbon positif 'clyfar'

16 Gorffennaf 2015

Solcer House

Dyluniadau ynni effeithlon yn rhoi mwy o ynni i'r grid cenedlaethol

Mae arbenigwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylunio ac adeiladu tŷ clyfar ynni cost isel cyntaf y DU sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol, ac sy'n gallu allforio mwy o ynni i'r grid trydan cenedlaethol na'r hyn mae'n ei ddefnyddio.

Adeiladwyd y tŷ, a ddyluniwyd gan yr Athro Phil Jones a'i dîm yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, fel model cychwynnol i fodloni targedau llym newydd a osodwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer tai di-garbon.

Cafodd y tŷ ei gynllunio a'i adeiladu'n rhan o brosiect SOLCER Sefydliad Ymchwil Carbon Isel Cymru (LCRI), a'i gefnogi gan SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddyluniad unigryw yn cyfuno sawl elfen am y tro cyntaf, sef llai o alw am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy, a gallu i storio ynni, i greu tŷ sy'n cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio. 

"Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – a llywodraethau ledled yr UE – wedi gosod targedau ar gyfer adeiladau ynni isel iawn erbyn 2020, a gall tai newydd di-garbon gyflawni hyn a mwy. Mae hyn yn golygu bod angen i ni fel cymuned academaidd ymateb i'r her hon a chanfod ffyrdd arloesol newydd i adeiladu tai'r dyfodol," yn ôl yr Athro Jones, sy'n arwain prosiect Tŷ SOLCER.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Rwyf wrth fy modd yn gweld Cymru'n arwain y DU gyda lansiad yr eiddo unigryw hwn, sef yr adeilad cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n llwyfan gwych ar gyfer y technolegau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, ac hwyrach y cânt eu mabwysiadu a'u dyblygu yn natblygiadau tai ar draws y DU yn y dyfodol gan greu manteision hirdymor eang ar gyfer yr economi, yr amgylchedd a meddianwyr. "

Ychwanegodd: "Drwy'r prosiect hwn, rydym wedi ymgymryd â'r her a defnyddio'r dyluniad a'r dechnoleg ddiweddaraf i adeiladu'r tŷ clyfar cyntaf yn y DU i ddefnyddio llai o ynni na'r hyn mae'n ei gynhyrchu."

Mae perfformiad ynni di-garbon yn gyfuniad o lai o alw am ynni a chyflenwad ynni adnewyddadwy, gan ddefnyddio'r grid trydan i fewnforio ac allforio ynni.

Mae storfa drydanol a thermol wedi'i defnyddio hefyd er mwyn i breswylwyr allu defnyddio'r ynni a gynhyrchir yn y tŷ yn uniongyrchol.

Mae dyluniad Tŷ SOLCER yn seiliedig ar y cysyniad o ddefnyddio 'Adeiladau fel Gorsafoedd Pŵer' a ddatblygwyd gan Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC, ac mae'n unigryw gan ei fod yn defnyddio nifer o dechnolegau a dyluniadau a ddatblygwyd gan Raglen Ymchwil Adeiladau Carbon Isel LCRI.

Dywedodd Kevin Bygate, Prif Weithredwr SPECIFIC,"Gallai adeiladau sy'n gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni adnewyddadwy eu hunain weddnewid pethau. Mae Tŷ SOLCER wedi'i adeiladu'n fwriadol gyda'r technolegau fforddiadwy, oddi ar y silff, gorau, felly mae'n profi beth sy'n bosibl, hyd yn oed nawr – ac mae llawer mwy o dechnoleg ar y gweill."

Er mwyn lleihau'r galw am ynni yn sylweddol, adeiladwyd y tŷ gyda lefelau uchel o inswleiddio thermol i leihau faint o aer sy'n dianc. Mae hefyd yn defnyddio dyluniad ynni effeithlon arloesol sy'n cynnwys sment carbon isel, paneli sydd wedi'u hinsiwleiddio'n strwythurol (SIPS), rendrad sydd wedi'i inswleiddio'n allanol, casglwyr ynni solar trydarthol yn ogystal â ffenestri a drysau gwydr dwbl allyrredd isel gyda fframiau pren ac alwminiwn o'u cwmpas.

Mae'r to, sy'n wynebu'r de, yn cynnwys paneli gwydr solar ffotofoltäig. Mae'r rhain wedi'u hintegreiddio'n llawn yng nghynllun yr adeilad gan olygu bod gofod y to oddi tan yn cael ei oleuo'n naturiol. Dyluniwyd hwn i leihau'r gost o orfod gosod paneli solar ar do arferol.

Mae systemau ynni'r tŷ yn cynhyrchu solar ac yn storio batri i weithredu ei system wresogi, awyru a dŵr poeth yn ogystal â'i system pŵer trydanol sy'n cynnwys peiriannau, goleuadau LED a phwmp gwres. Mae system aer solar TSC yn cynhesu'r aer awyru ymlaen llaw, ac ychwanegir ato o storfa dŵr thermol.

Ychwanegodd yr Athro Jones: "Nawr bod y tŷ wedi'i adeiladu, ein prif dasg yw gwneud yn siŵr bod popeth yr ydym wedi'i osod yn cael ei fonitro er mwyn defnyddio ynni yn y ffordd fwyaf effeithlon.

"Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio prosiectau yn y dyfodol a gwneud yn siŵr bod Cymru'n parhau'n ganolog wrth ddatblygu tai di-garbon yn y dyfodol.

"Mae'r adeilad yn dangos sut gallwn ddefnyddio ein technolegau blaenllaw ym maes carbon isel o ran cyflenwi, cadw a galw yn y cartref. Gyda lwc, caiff y rhain eu hefelychu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol."

Adeiladwyd Tŷ SOLCER mewn 16 wythnos, ac fe'i cwblhawyd ym mis Chwefror 2015.

Mae'r tŷ ar safle Cenin Renewables Ltd yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Rhannu’r stori hon