Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth arloesol Minecraft i bobl ifanc ddylanwadu ar ailgynllunio Caerdydd

21 Ionawr 2021

Minecraft image

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn rhoi cyfle cyffrous i blant a phobl ifanc i helpu i lunio dyfodol Caerdydd trwy ddefnyddio platfform gemau rhithwir.

Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, mae ‘Dyfeisiwch Eich Dinas’ yn fenter Caerdydd sy'n Dda i Blant sydd â'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn amrywiaeth o ddatblygiadau strategol drwy ddefnyddio Minecraft Education.

Mae Minecraft Education yn gêm fideo aml-lwyfan sy'n gwella creadigrwydd, sgiliau datrys problemau, hunan-gyfeiriad, sgiliau cydweithredu, a sgiliau bywyd eraill sy'n defnyddio blociau adeiladu, adnoddau a ddarganfyddir ar y safle a chreadigrwydd y defnyddwyr eu hunain.

Mae'r dull digidol hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Addysg Caerdydd ac Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg Caerdydd, yn gosod cyfres o heriau yn y byd go iawn ac mae'n ffordd i bobl ifanc rannu eu syniadau ynglŷn â sut yr hoffent i Gaerdydd edrych yn y dyfodol.

Mae'r fenter yn lansio'r wythnos hon gyda chystadleuaeth yn gwahodd plant oedran ysgol i ail-ddylunio llain o dir sydd y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol y ddinas, gyda'r enillydd yn dylanwadu ar bwrpas newydd y tir.

Caiff yr ymgeiswyr gynrychiolaeth ddaearyddol gywir o'r safle lle gall pobl ifanc greu eu bydoedd a'u profiadau eu hunain, gan ganolbwyntio ar gadw a hyrwyddo mannau gwyrdd.

Dywedodd Dr Catherine Teehan, Darlithydd a Swyddog Arwain Lleoliadau a Chyflogadwyedd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Rydym wedi bod yn gweithio fel rhan o raglen Technocamps ers y saith mlynedd diwethaf. Mae gennym dîm allgymorth pwrpasol sydd wedi ymrwymo i gynnig cymorth ac adnoddau ar gyfer addysg ddigidol ledled De-ddwyrain Cymru.

"Rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r fenter arloesol hon yn ein dinas ac i fod yn defnyddio dysgu sy'n seiliedig ar gêm i ymgysylltu ag ystod eang o blant a phobl ifanc."

Mae Technocamps yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi galluogi Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd i sefydlu tîm allgymorth. Mae bellach yn cynnwys dros 120 o fyfyrwyr sy'n Lysgenhadon STEM sy'n cyflwyno gweithdai i blant ysgol a'r gymuned leol.