Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect gemau cydweithredol i ysbrydoli pobl ifanc i yrfaoedd STEM yn y dyfodol

17 Medi 2020

STEM Ambassadors event

Mae myfyrwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i ymddiddori mewn codio drwy brosiect newydd cyffrous o'r enw Impact Games.

Mae'r Ysgol yn ymuno â Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, sydd wedi cael arian gan Rwydwaith Gwyliau Gwyddoniaeth y DU (UKSFN) ac Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI) i redeg y fenter.

Nod y prosiect yw ysbrydoli pobl ifanc i feithrin diddordeb mewn codio cyfrifiadurol drwy eu cefnogi nid yn unig i chwarae, ond i greu eu gemau cyfrifiadurol eu hunain, ac mae hefyd yn cynnwys gweithio gyda Girlguiding Cymru.

Bydd  Llysgenhadon myfyrwyr STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn gweithio gyda'r bobl ifanc i'w cynorthwyo gyda chodio a dylunio graffeg ar gyfer y gêm, a allai fod yn ymwneud â chyffur i helpu i drin canser, neu gêm i ganfod gwendidau mewn pontydd a strwythurau eraill.

Dywedodd Cheryl McNamee-Brittain, Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Caerdydd: "Fel canolbwynt Technocamps, mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn. Mae ein Llysgenhadon myfyrwyr STEM yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Girl Guides ac Impact Gamers i greu gemau cyffrous llawn gwybodaeth sy'n gysylltiedig â meysydd ymchwil pwysig. Gobeithio y bydd yn ysbrydoli'r bobl ifanc i ddewis pynciau a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM yn y dyfodol!"

Mae'r prosiect cydweithredol hefyd yn cynnwys Impact Gamers, cwmni buddiannau cymunedol sydd wedi ennill gwobr BAFTA, sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc i ddangos iddyn nhw pa mor hwyliog a hawdd y gall codio fod, gan gymryd eu syniadau am gemau a’u helpu i'w gwireddu.

Dylai ein myfyrwyr Llysgennad STEM ddechrau gweithio gyda'r Girl Guides, Impact Gamers a'r ymchwilwyr yn fuan iawn, gyda'r gemau'n cael eu cwblhau erbyn mis Chwefror a'u harddangos yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd.

Rhannu’r stori hon