Ysgol Cyfrifiadureg yn rhyngweithiol yn Eisteddfod yr Urdd 2019
7 Mehefin 2019
Cafodd ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd gyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl o fyd technoleg a’r byd digidol, gyda Llysgenhadon STEM, yn staff a myfyrwyr, o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Fel rhan o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i iaith a diwylliant Cymru, roedd y Brifysgol yn falch o fod yn bartner yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, bu’r ŵyl ieuenctid deithiol ar gyfer llenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yn denu dros 90,000 o bobl, gan gynnwys 15,000 o bobl ifanc, i Fae Caerdydd.
Rhoddodd y tîm o’u hamser a’u brwdfrydedd i ennyn diddordeb yr Eisteddfodwyr mewn amrywiaeth o gêmau a heriau hwyliog, llawn ysbrydoliaeth i’r teulu, gan archwilio cysyniadau allweddol Cyfrifiadureg a meddwl yn gyfrifiadurol. Daeth llu o bobl o bob oed i’r stondin yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg i fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau oedd ar gael. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o weithgareddau heb gyflenwad trydan, adeiladu creadigaethau robotig rhyngweithiol â Lego Mindstorms, rhaglennu blociau gweledol â Scratch, a phrofi amgylchedd trochi trwy gogls Realiti Rhithwir (VR).
Dywedodd Cheryl McNamee-Brittain, Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Roeddem ni wrth ein bodd yn cael cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd 2019. Rydym ni’n gobeithio ein bod wedi helpu’r rhai a ddaeth i ymweld â ni i ddatblygu dealltwriaeth o systemau cyfrifiadurol a chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol, a’u bod nhw wedi mwynhau’r profiad. Mae’r rhain yn sgiliau pwysig i bawb, nid dim ond gwyddonwyr cyfrifiadurol, ac rydym am eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl o bob oed.”
Dywedodd Anastasia Ugaste, Llysgennad STEM yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Roeddwn i wrth fy modd yn cyflwyno ymwelwyr ifanc i sbectol VR a robotiaid Mindstorm. Mae eu cyffro ynghylch rhaglennu mor galonogol ac yn caniatáu i ni greu gweithdai mwy diddorol. Roedd yn ddiddorol dros ben gweithio a chyfnewid gwybodaeth gyda phobl o wahanol adrannau, a Phrifysgolion hyd yn oed, ar hyd y digwyddiad.”
Ar hyd y dydd, bu’r tîm yn arddangos gweithgareddau o’r rhaglen Cyfrifadura Maes Chwarae y mae Prifysgol Caerdydd yn ei chyflwyno trwy’r fenter Technocamps.
Prosiect yw Technocamps sy’n cwmpasu saith Prifysgol yng Nghymru, gyda’r nod o ysgogi a chynnwys pobl ifanc 11-19 oed ym maes Cyfrifiadureg. Mae’r rhaglen wedi cyflwyno dros 1500 o weithdai i fwy na 35,000 o bobl ifanc ledled Cymru ar raglennu, datblygu apiau, datblygu gêmau, a roboteg.
Mae Prifysgol Caerdydd yn trefnu gweithdai rheolaidd ar feddwl yn gyfrifiadurol a rhaglennu yn rhanbarth Caerdydd. Cysylltwch â Cheryl McNamee-Brittain neu Dr Catherine Teehan i gael rhagor o wybodaeth.