Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ethol Cymrodyr Arloesedd

15 Rhagfyr 2020

Business people shaking hands stock image

Mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi tri Chymrawd Arloesedd i gydnabod eu gwaith rhagorol yn creu partneriaethau Prifysgol parhaol.

Mae'r teitl anrhydeddus newydd wedi'i roi i arweinwyr o sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i ddatblygu arloesedd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Y derbynwyr yw:

  • Robyn Walton-Davies, Pennaeth Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyn-reolwr Partneriaeth Gwyddor Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru;
  • Peter Fullerton, cyn Gyfarwyddwr Casglu Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a gadeiriodd gyfarfodydd partneriaeth strategol rhwng SYG a'r Brifysgol, ac sy'n eistedd ar fwrdd ymgynghorol yr Academi Gwyddor Data;
  • Clive Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd a Rheolwr Gyfarwyddwr gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru gyfan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Rydym yn falch iawn o anrhydeddu ein Cymrodyr Arloesedd cyntaf am eu gwaith diflino i greu partneriaethau trwy gadeirio grwpiau, sefydlu paneli, cael cefnogaeth gan ddiwydiant a denu cyllid gan y sector cyhoeddus a phreifat. Gobeithiwn y bydd y Cymrodoriaethau yn 'ddiolch' twymgalon am wasanaeth ymroddedig wrth helpu Caerdydd a'r Ddinas-Ranbarth i greu cydweithrediadau yn y dyfodol sy'n cynhyrchu arloesedd pellach."

Mae Robyn Walton-Davies yn angerddol am Entrepreneuriaeth Cymru ac mae wedi bod yn fentor gwirfoddol yn Sefydliad Alacrity o'r cychwyn cyntaf. Mae'n Athro gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, yn Gymrawd i Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd ac yn Gymrawd i Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Mae hefyd yn Gadeirydd CulturVate, gyda chefnogaeth Wesley Clover.

“Fel myfyriwr graddedig seicoleg ac ôl-raddedig ysgol busnes Caerdydd, rwy’n falch iawn o dderbyn y teitl anrhydeddus hwn,” meddai Robyn. Trwy gefnogaeth hirsefydlog yr Ysgol Meddygaeth, mae'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol ein partneriaeth Arloesedd clinigol wrth gefnogi cynaliadwyedd ein gwasanaeth iechyd.”

Gobeithiwn y bydd y Cymrodoriaethau yn 'ddiolch' twymgalon am wasanaeth ymroddedig wrth helpu Caerdydd a'r Ddinas-Ranbarth i greu cydweithrediadau yn y dyfodol sy'n cynhyrchu arloesedd pellach.

Yr Athro Kim Graham Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter

Robyn Walton-Davies is passionate about Welsh Entrepreneurship and has been a volunteer mentor at the Alacrity Foundation from its inception. He is a visiting Professor at USW, Fellow of the Royal Society for Public Health and a Fellow of the Chartered Institute of Personnel and Development. He is also Chair of CulturVate, supported by Wesley Clover.

"As a Cardiff psychology graduate and business school postgraduate, I am delighted to receive this honorary title,” said Robyn.” Through the long-standing support of the School of Medicine, it recognises the critical importance of our clinical Innovation partnership in supporting the sustainability of our health service.”

Cyn iddo ymddeol yn ddiweddar, treuliodd Peter Fullerton 18 mlynedd yn SYG, mewn dwy swydd uwch mewn cyflenwi busnes ac arwain rhaglenni datblygu arloesol. Fel Cyfarwyddwr Casglu Data, roedd yn gyfrifol am dimau gyda thros 1,800 o bobl. Bu hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar Gampws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r cychwyn cyntaf. Cyn ymuno â'r SYG, bu Peter yn gweithio yn Llywodraeth Cymru / Swyddfa Cymru mewn ystod o rolau arwain ystadegol a pholisi cyhoeddus.

Dywedodd Peter “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i ddatblygu arloesedd data mewn cydweithrediad â’r Brifysgol yn dilyn fy rôl yn sefydlu’r bartneriaeth strategol lwyddiannus gyda’r SYG dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n amser cyffrous iawn i'r Brifysgol wella ei henw da am arloesedd data trwy fentrau fel y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data a SPARK."

Mae gan Clive Morgan brofiad blaenorol o weithio gyda chydweithwyr Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gydweithrediadau â chorfforaethau gofal iechyd byd-eang gan gynnwys Roche, GE Healthcare a Siemens trwy'r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol. Mae wedi helpu'r Brifysgol i sefydlu cysylltiadau allweddol â grwpiau'r GIG gan gynnwys Cydweithrediad GIG Cymru, Rhwydwaith Patholeg Cenedlaethol a Grŵp Strategaeth Profi Pwynt Gofal sydd wedi galluogi cynigion cyd-ariannu eraill.

“Mae’n fraint fawr i mi gael y cyfle cyffrous hwn i gryfhau’r bartneriaeth arloesedd gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, GIG Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth gofal iechyd a meddygaeth fanwl,” meddai Clive.

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r gwaith parhaus gyda chydweithwyr gwych ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu perthnasoedd gweithio cydweithredol gyda phartneriaid yn y diwydiant. Ein huchelgais a rennir yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt arloesedd arwyddocaol yn fyd-eang ar gyfer diagnosteg integredig.”

Yn ogystal â chydnabod yn ffurfiol y cyfraniad y mae llawer o unigolion yn ei wneud i'r Brifysgol, mae Cymrodoriaeth Arloesedd yn rhoi cefnogaeth gan Rwydwaith Arloesedd y Brifysgol a mynediad at wasanaethau llyfrgell a TG.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.