Ewch i’r prif gynnwys

SPARK yn ymuno ag Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol gwerth £ 2m

3 Rhagfyr 2020

Aerial view of crowd connected by lines - stock photo

Mae Parc Ymchwil y Gwyddor Gymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) gwerth £ 2m i fynd i’r afael ag effeithiau cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus COVID-19.

Mae'r prosiect, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn dod ag ymchwil a pholisi ynghyd i liniaru effeithiau'r pandemig a chyflymu adferiad y DU.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain (UCL), mae'r prosiect gwerth £2 filiwn, yn gydweithrediad rhwng UCL, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Queen's Belffast, Prifysgol Auckland a Phrifysgol Rhydychen, ynghyd â melinau trafod gan gynnwys y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Gwyddoniaeth y Llywodraeth a'r cyhoeddwr newyddion academaidd The Conversation.

Dywedodd Cyfarwyddwr Academaidd SPARK, yr Athro Chris Taylor : “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan fawr o Arsyllfa a fydd yn rhoi mynediad i lunwyr polisïau’r DU at adnoddau, tystiolaeth a dadansoddiad o ymatebion polisi byd-eang i COVID-19, fel y gallant wneud penderfyniadau gwell wrth ddelio ag effeithiau’r pandemig. Bydd yr IPPO yn canolbwyntio ar ystod o feysydd polisi cyhoeddus lle mae gan SPARK arbenigedd ymchwil sy’n arwain y byd, megis addysg, gofal cymdeithasol plant ac oedolion, iechyd meddwl glasoed, paratoi gwybodaeth a broceru anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau."

Er mwyn mynd i'r afael â'r anghenion polisi mwyaf brys, bydd yr IPPO yn torfoli cwestiynau a phynciau allweddol gan lunwyr polisïau a'r cyhoedd. Bydd yn creu 'mapiau byw' o dystiolaeth a pholisi i dorri trwy'r nifer fawr o ymatebion ymchwil cymdeithasol a pholisi ar COVID-19 a darparu cronfa ddata ymchwil y gellir ei chwilio.

Dywedodd yr Athro Joanna Chataway o UCL, prif ymchwilydd yr IPPO: “Mae pandemig COVID-19 wedi creu heriau digynsail i lunwyr polisïau. Mae ystod a brys y dystiolaeth sydd eu hangen arnynt yn tyfu'n barhaus, ac os nad yw'n hawdd ei chyrraedd, mae hyn yn creu rhwystr arall wrth ddatblygu'r mesurau sydd eu hangen arnom i helpu cymdeithas trwy effeithiau COVID-19."

Bydd cyfraniad Caerdydd i'r IPPO yn adeiladu ar y dull arloesol o ymgysylltu â Gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a ddatblygwyd yma yng Nghymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Dywedodd ei Gyfarwyddwr, Yr Athro Steve Martin: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn yr IPPO i helpu i sicrhau bod y fenter newydd bwysig hon yn diwallu anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau ym mhob rhan o'r DU.”

Bydd yr IPPO yn adeiladu cysylltiadau parhaol rhwng arbenigwyr polisi ac ymchwil o bob cwr o'r byd ac yn darparu mewnwelediadau hyblyg wedi'u targedu ar y ffordd orau i fynd i'r afael ag ymateb ac adferiad y DU i'r pandemig.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.