Cymrodoriaeth nodedig i Reolwr Ysgol
14 Rhagfyr 2020
Mae Rheolwr Ysgol un o ysgolion mwyaf Prifysgol Caerdydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes (ABS Siartredig) i gydnabod ei gyfraniad rhagorol a pharhaus yn cefnogi ysgolion busnes y DU ac ychwanegu gwerth at eu gwaith.
Dr Andrew Glanfield, Rheolwr Ysgol a Phennaeth Adran Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol Busnes Caerdydd, oedd un o bedwar cymrawd newydd yn unig a gyflwynwyd yng nghynhadledd flynyddol ABS Siartredig ym mis Tachwedd eleni.
Am y tro cyntaf yn ei hanes, cynhaliwyd y gynhadledd ar-lein oherwydd rheoliadau ynghylch pandemig coronafeirws (COVID-19).
Gan sôn am y dyfarniad nodedig, dywedodd Andrew: “Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ngwneud yn Gymrawd ABS Siartredig. Mae ABS Siartredig yn sefydliad sydd wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at rôl a chyfrifoldebau pwysig ysgolion busnes, yn enwedig hyrwyddo'r rôl hanfodol sydd ganddyn nhw fel catalyddion ar gyfer cynnydd cymdeithasegol, cymdeithasol ac amgylcheddol, yn y DU ac ar draws y byd...”
Annog a chefnogi
Yn ystod 10 mlynedd o fod yn aelod o ABS Siartredig, mae Andrew wedi cydweithio gyda'r Pwyllgor Llywio Rheolwyr Proffesiynol (PSMC) ar ei genhadaeth i “annog a chefnogi perfformiad uchel y gwasanaethau proffesiynol mewn ysgolion busnes drwy broses o ddatblygu a throsglwyddo gwybodaeth. ”
Fel un o 13 o reolwyr ysgolion busnes blaenllaw sy'n rhan o'r PMSC, mae Andrew yn chwarae rhan annatod yng Nghynhadledd Flynyddol y Rheolwyr Proffesiynol a digwyddiadau datblygiadol eraill ABS Siartredig.
Yn 2016 er enghraifft, cynhaliwyd PMAC yng Nghaerdydd gan amlygu ymrwymiad yr Ysgol i greu gwerth cyhoeddus trwy ddysgu ac addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.
Mae gweithgareddau eraill gan gynnwys mentora rheolwyr proffesiynol newydd, ynghyd â chyfrannu arbenigedd a phrofiad mewn trafodaethau ar ailstrwythuro, rheoli newid ac arloesi parhaus mewn llawer o ysgolion busnes yn y DU yn nodweddion o aelodaeth Andrew o ABS Siartredig.
Yn fwyaf diweddar, roedd Andrew’n awyddus i dynnu sylw at gyfraniad Ysgol Busnes Caerdydd i fenter Ysgolion Busnes Da ABS Siartredig.
“Mae’n hyfryd gweld y blynyddoedd hynny o ymrwymiad a’i ymroddiad i’r sector Ysgolion Busnes yn cael eu cydnabod gyda'r wobr bwysig hon.”
Wrth gyflwyno'r gwobrau yng Nghynhadledd Flynyddol ABS Siartredig, dywedodd y Cadeirydd, yr Athro Robert MacIntosh: “Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser gweithio gyda’r Cymrodyr newydd, y mae eu gwaith wedi bod yn rhan annatod o’r gwerth rydym wedi gallu ei gyflawni i’r ysgolion busnes sy’n aelodau...”
Caiff cymrodyr ABS Siartredig eu henwebu gan gymheiriaid yn dilyn galwad agored am enwebiadau. Cyflwynir enwebiadau a dyfarniadau newydd bob blwyddyn.