Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant yng ngwobrau RTPI i fyfyrwyr a chyn-fyfyriwr

16 Rhagfyr 2020

Roedd lle amlwg i Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yng Ngwobrau Cynllunio Rhagoriaeth RTPI Cymru 2020.

Cynhaliwyd Gwobrau RTPI Cymru yn rhithwir yn mis Tachwedd, gan ddathlu llwyddiannau aelodau newydd ac aelodau'r dyfodol o'r proffesiwn cynllunio.

Cydnabuwyd tri myfyriwr cyfredol gyda Gwobr RTPI Cymru am Ragoriaeth Academaidd. Rhoddir y gwobrau am ragoriaeth mewn arholiadau a gwaith cwrs ar flwyddyn gyntaf rhaglenni BSc Cynllunio a Datblygu Trefol a BSc Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio'r Ysgol.

Enillwyr Gwobr 2020 oedd:

  • Katharine Forbes - BSc Cynllunio a Datblygu Trefol
  • Thomas White – BSc Cynllunio a Datblygu Trefol
  • Thomas Harding – BSc Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio

Clod i gyn-fyfyriwr

Yn ogystal â gwobrau'r myfyrwyr, cyhoeddwyd mai'r cyn-fyfyriwr Emmeline Reynish oedd enillydd Gwobr Cynllunydd Ifanc y Flwyddyn Cymru 2020. Erbyn hyn, mae Emmeline, a gafodd radd Meistr mewn Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol yn yr Ysgol, yn Gynllunydd Tref Siartredig gydag Arup yng Nghaerdydd. Fe'i canmolwyd gan y Beirniaid am ei hangerdd yn hyrwyddo cynllunio trefol yng Nghymru a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn: "Mae gan Emmeline ymrwymiad cryf i'r proffesiwn ac mae'n hynod o ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Bydd ei brwdfrydedd yn gymorth mawr i'r Sefydliad allu ymateb i'r heriau hynny mewn modd cynaliadwy a chynhwysol."

"Mae'n wych gweld ein myfyrwyr presennol yn cael eu cydnabod am eu llwyddiant a'u rhagoriaeth academaidd, yn enwedig o ystyried yr heriau ehangach yn ystod misoedd olaf eu blwyddyn gyntaf o astudio. Mae eu ffocws a'u gwaith caled i'w ganmol ac rwyf i'n falch i weld cydnabyddiaeth i'w llwyddiant."

Yr Athro Paul Milbourne Head of the School of Planning and Geography

Ychwanegodd yr Athro Milbourne: "Hefyd hoffwn gynnig llongyfarchiadau gwresog i Emmeline gan holl gymuned yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. A hithau'n gyn-fyfyriwr cymharol ddiweddar, mae wedi datblygu ei gyrfa'n gyflym ac wedi ei sefydlu ei hun yn gadarn yn y gymuned cynllunio yng Nghymru a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weld ei gyrfa'n datblygu a'i heffaith ar y proffesiwn yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.