Astudiaeth yn awgrymu bod pwysau geni bach a mawr yn gysylltiedig â geneteg y fam a'r babi - ac eithrio yn y babanod lleiaf
2 Rhagfyr 2020
Mae astudiaeth ar raddfa fawr gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg wedi canfod y dystiolaeth gryfaf hyd yma bod geneteg yn chwarae rhan fawr yn y rhan fwyaf o achosion pan fydd babanod a anwyd yn y tymor llawn yn y 10% uchaf neu isaf o'r sbectrwm pwysau geni.
Fodd bynnag, yn y 3% o fabanod sydd â’r pwysau geni lleiaf, roedd yn ymddangos bod geneteg yn chwarae rhan llai pwysig, darganfu’r ymchwilwyr, gan nodi y gallai ffactorau eraill fod yn cyfrannu at faint bach y babanod.
Edrychodd ymchwilwyr ar 190 o amrywiadau genetig cyffredin sy’n hysbys yn effeithio ar bwysau geni. Gallai ffactorau pwysig eraill gynnwys iechyd y fam neu'r ffetws neu'r brych, sy'n trosglwyddo maetholion ac ocsigen i'r babi.
Dywedodd yr Athro Sailesh Kotecha o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain yr ymchwil: “Mae’n bwysig nodi rhesymau pam mae babanod yn cael eu geni â phwysau geni isel gan eu bod mewn perygl o gael problemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys diabetes a phwysedd gwaed uchel.
Er mwyn archwilio i ba raddau yr oedd pwysau geni yn gysylltiedig â geneteg mamau a babanod, creodd y tîm sgôr genetig ar gyfer pwysau geni uwch.
Gwnaeth yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn PLOS Genetics, brofi a oedd y sgôr genetig yn uwch neu'n is mewn babanod a anwyd yn fawr iawn neu'n fach iawn mewn sampl o bron i 12,000 o fabanod a mwy na 5,000 o famau o dras Ewropeaidd.
Mae pwysau babanod adeg genedigaeth yn bwysig, gan fod y rhai sy'n cael eu geni yn y ddau begwn mewn mwy o risg o gymhlethdodau. Mae babanod llai yn fwy tebygol o gael eu derbyn i unedau newydd-enedigol ac mewn mwy o berygl o farw, tra bod babanod mawr mewn mwy o berygl o gymhlethdodau yn ystod genedigaeth.
Dywedodd Dr Robin Beaumont, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerwysg, cyd-awdur yr astudiaeth: “Mae'r ymchwil hon yn taflu goleuni newydd ar pam mae rhai babanod yn cael eu geni'n fawr neu'n fach iawn. Bydd y wybodaeth hon yn helpu rhieni a chlinigwyr i ddeall lle mae angen iddynt ganolbwyntio sylw meddygol.
“Chwaraeodd geneteg ran lai yn y 3% o fabanod sydd â’r pwysau isaf, gan awgrymu y gallai ffactorau eraill fel iechyd y brych fod wedi dylanwadu ar eu pwysau.”
Dywedodd yr ymchwilwyr ei bod hefyd yn bosibl y gallai newidiadau genetig prin yn y babi leihau twf yn y 3% lleiaf.
Dywedodd yr Athro Rachel Freathy, o Brifysgol Caerwysg a oruchwyliodd yr astudiaeth fod yr astudiaeth yn “rhoi’r ddealltwriaeth fwyaf hyd yma i sut mae amrywiadau genetig cyffredin rhwng pobl yn dylanwadu ar eithafion pwysau geni”.
“Bellach mae angen i ni ddeall yn well a yw’r geneteg neu’r ffactorau amgylcheddol yn bwysicach yn y peryglon iechyd diweddarach,” meddai.
Cydweithiodd Prifysgol Bryste, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Oulu yn y Ffindir ar yr astudiaeth hefyd. Roedd y mamau a'r babanod yn dod o Blant y 90au, astudiaeth iechyd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Bryste, Astudiaeth Teulu o Iechyd Plentyndod, Caerwysg a Charfannau Geni Gogledd y Ffindir 1966 a 1986.
Cefnogwyd yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome a rhaglen H2020 y Comisiwn Ewropeaidd.