Ewch i’r prif gynnwys

Gwella gallu’r ysgyfaint mewn plant sy’n cael eu geni yn gynnar

25 Ebrill 2018

Image of patient at the Bebe clinic undergoing tests

Mae prosiect ymchwil yng Nghaerdydd sy’n ceisio gwella gallu’r ysgyfaint mewn plant a anwyd yn gynnar, yn ehangu er mwyn targedu rhagor o gyfranogwyr.

Nod Bebe (Born Early Breathe Easy) yw gweld a ellir trin problemau â’r ysgyfaint sy’n gyffredin mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar, mewn modd effeithiol.

Mae’r ymchwil ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor yn astudio plant saith i 12 oed i ymchwilio i ba mor dda yw gallu eu hysgyfaint.

Mae dros 1,000 o gyfranogwyr a anwyd yn gynnar, yn ogystal â’r rhai a barodd y cyfnod beichiogrwydd llawn, yn cynnal profion anadlu gartref cyn cael ymchwiliadau mwy helaeth yn yr Ysbyty Plant, Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd.

Mae ymchwilwyr yn credu bod gan rai plant a anwyd cyn 34 wythnos anawsterau anadlu sydd naill ai heb eu canfod, neu’n sy’n cael eu camddiagnosio fel asthma.

Mae hyd at 200 o blant a anwyd yn gynnar ac y canfuwyd bod ganddynt allu ysgyfaint isel, yn cael gwahoddiad i ymuno â chynllun prawf ‘anadlydd’ (inhaler) 12 wythnos o hyd, ac maent yn cael dau neu dri o anadlyddion i’w cymryd bob dydd. Mae dau anadlydd yn cynnwys cyffur penodol yr un, tra bod y trydydd yn anadlydd ffug.

Mae rhai plant sy’n anadlu’n arferol – naill ai a anwyd yn gynnar neu ar ôl y tymor beichiogrwydd llawn – hefyd yn cymryd fel modd o reoli’r prosiect.

Ar ddiwedd y 12 wythnos, bydd y plant yn dychwelyd i’r ysbyty i ailadrodd y profion i weld a yw’r anadlwyr wedi gwella eu gallu i anadlu. Bydd nifer ohonynt hefyd wedi cael sgan MRI arbenigol o’u hysgyfaint ym Mhrifysgol Sheffield i ymchwilio ymhellach i allu eu hysgyfaint.

Mae rownd bellach o wahoddiadau i ymuno â’r astudiaeth yn cael eu hanfon at blant ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru, y bu rhai ohonynt yn cymryd rhan mewn astudiaeth holiadur blaenorol o’r enw RHiNO (Respiratory Health in Newborns), a anfonwyd at 26,000 o deuluoedd yn 2013.

Un o’r rhai sydd wedi cymryd rhan yw Tom Stevens o Gaerdydd, sy’n naw mlwydd oed. Cafodd Tom ei eni’n eithriadol o gynnar – ar ôl 24 wythnos – a threuliodd bedwar mis yn yr uned newyddenedigol yn yr ysbyty cyn mynd adref ychydig ddyddiau cyn y dylai fod wedi cael ei eni.

Roedd ar Tom angen llawdriniaeth ar ei galon a’i lygaid a llawdriniaeth dorgest, a threuliodd chwe wythnos arall yn yr ysbyty o ganlyniad i broblemau anadlu.

Mae'n dal i cael gofal gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer ei broblemau anadlu.

Yn ôl ei fam, Justine: “Heb os nac oni bai, heb ofal ardderchog y nyrsys a’r meddygon, ni fyddai Tom yma heddiw.

“Anfonwyd y wybodaeth am astudiaeth Bebe atom, ac roeddwn i a Tom o’r farn ei bod yn bwysig gwirfoddoli i gymryd rhan yn yr ymchwil gan mai canran fach yn unig o blant sy’n gymwys i gymryd rhan. Rydym yn gobeithio bydd canfyddiadau'r astudiaeth o fudd i fabanod eraill a anwyd yn gynnar, a’u teuluoedd.”

Yn ôl yr Athro Sailesh Kotecha, sy’n arwain yr ymchwil: “Does dim amheuaeth bod llawer o fabanod a anwyd yn gynnar yn datblygu clefyd yr ysgyfaint wrth iddynt dyfu’n hŷn, ond nid yw'n glir pam mae plant a anwyd yn gynnar yn datblygu clefyd yr ysgyfaint. Yn anffodus, nid ydym yn gwybod sut i drin clefyd yr ysgyfaint ymhlith y plant hyn.

“Ein hastudiaeth ni yw’r un fwyaf yn y byd o bell ffordd a’i nod yw deall pam mae’r plant hyn yn datblygu clefyd yr ysgyfaint. Mae hefyd yn fodd o weld pa anadlwyr yw’r rhai gorau i'w defnyddio ar gyfer clefyd yr ysgyfaint ymhlith plant a anwyd yn gynnar.”

Rhannu’r stori hon