Ewch i’r prif gynnwys

Ar y ffordd tuag at Ŵyl Glastonbury fwy glân a gwyrdd

10 Tachwedd 2020

Stock image of tents at a festival

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn partneru ag Electrogenic a Gŵyl Glastonbury i helpu i drydanu cerbydau Land Rover a ddefnyddir ar draws Fferm Worthy.

Mae’r prosiect gwerth £348,564, sydd wedi cael cyllid gan Innovate UK, yn cael ei arwain gan Electrogenic, sef cwmni sy’n arbenigo mewn troi cerbydau clasurol yn gwbl drydanol, gyda mewnbwn gan beirianwyr Prifysgol Caerdydd.

Caiff cyfanswm o bedwar Land Rover ei droi o beiriannau diesel yn rhai trydan, a’u monitro drwy ddefnyddio meddalwedd flaengar o ddydd i ddydd i asesu perfformiad yn ôl cost ac effaith amgylcheddol.

Mae Fferm Worthy eisoes wedi cyflwyno paneli solar a threuliwr anaerobig, y bydd y ddau ohonynt yn helpu i greu ynni glân, adnewyddadwy sy’n cefnogi’r fferm, tai lleol ac elfennau Gŵyl Glastonbury. Bydd y pŵer hwnnw hefyd yn cael ei ddefnyddio i wefru’r Land Rovers trydanol newydd.

Yn y DU, defnyddir Land Rovers yn eang gan ffermwyr a thirfeddianwyr oherwydd eu perfformiad a’u hirhoedledd; fodd bynnag, mae pob un ohonynt yn llosgi diesel, a hynny’n aneffeithlon.

Ar hyn o bryd, nid oes fersiwn drydan ar y Land Rover sy’n agos i fod ar gael ar y farchnad, tra nad oes fawr o ddealltwriaeth o ddefnydd cerbydau gyriant pedair olwyn o ynni oddi ar y ffordd.

Land Rover Defender
Converted Land Rover Defender

Mae Canolfan Ragoriaeth Cerbydau Trydan Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Liana Cipcigan, yn cynnwys arbenigwyr ar flaen y gad yn fyd-eang ym mhob maes ynghylch cerbydau trydan, gan ddod â gwyddonwyr o ledled y Brifysgol at ei gilydd i ymchwilio a helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag cyflwyno’r dechnoleg ar raddfa fawr.

Yn rhan o’r prosiect, mae’r tîm yn cynllunio gwahodd ffermwyr o ledled y DU i Fferm Worthy i brofi’r broses drydanu a’u hannog i ystyried troi eu cerbydau eu hun yn rhai trydan.

Unwaith mae’r cysyniad wedi’i brofi a’i arddangos yng ngham cyntaf y prosiect, mae’r tîm yn gobeithio symud i dreial mwy sy’n cynnwys llawer mwy o gerbydau.

“Rydym wir wrth ein boddau’n gallu gweithio ochr yn ochr â Fferm Worthy ac Electrogenic i ddatblygu’r cerbydau trydan hyn, a chefnogi’r mentrau gwyrdd bendigedig sydd eisoes ar waith ar y fferm,” meddai Prif Ymchwilydd y prosiect, yr Athro Carol Featherston, o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.

“Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd nifer o gerbydau sy’n gwneud gwahanol dasgau ar unrhyw adeg, felly bydd gallu casglu data ar batrymau defnyddio cerbydau, y defnydd o ynni ac anghenion cyfnewidiol fferm weithio, yn rhan o’r prosiect hwn, yn ein galluogi i ddatblygu glasbrint o sut gellir troi cerbydau gyriant pedair olwyn yn drydanol mewn modd cost-effeithiol gyda chyn lleied o effaith â phosibl.”

Drwy annog ffermwyr i ymgysylltu â ni, gobeithiwn osod y sylfeini ar gyfer troi cerbydau’n drydanol ar raddfa fawr ar draws y wlad.

Yr Athro Carol Featherston Professor

Meddai Steve Drummond, o Electrogenic: “Rydym wrth ein boddau’n helpu Fferm Worthy i fod yn wyrddach fyth. Mae technoleg Electrogenic yn rhan bwysig o’r prosiect hwn, gan ei bod yn galluogi i fonitro’r holl ddata a gynhyrchir gan systemau rheoli’r cerbydau yn hawdd ac o bell. Rydym wrth ein boddau bod yr arbenigedd hwn wedi’i gydnabod gan Innovate UK.

“Rydym wedi llunio dwy fanyleb sy’n seiliedig ar ein profiad, a bydd eu cyflwyno i fferm weithredol yn rhoi cipolygon go iawn ar sut mae cadw costau’n isel drwy beidio â gor-beiriannu’r trosiad.

“Caiff y cerbydau eu profi drwy’r gaeaf, gan weithio bob dydd yn y tywydd garwaf sy’n dod. Felly edrychwn ymlaen at hwyl dda a glân Bydd y cynnyrch terfynol yn ffordd gost-effeithiol o fynd oddi ar y ffordd yn drydanol ac wedi’i dogfennu’n llawn.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.