Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau gwych Rasio Caerdydd yng nghystadleuaeth Formula Student 2020

12 Awst 2020

Cardiff Racing 2020

Llwyddiant israddedigion o Gaerdydd eleni yn Formula Student – cystadleuaeth rasio ceir fwya’r byd i fyfyrwyr – gan ddod yn bedwerydd yn y rowndiau dynamig rhithwir.

Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol sy’n cynnal Formula Student i annog myfyrwyr i ddefnyddio eu creadigrwydd a’u medrau technegol i ddylunio, adeiladu a rasio ceir unsedd mewn cyfres o rasys.

Yn hytrach na rasio yn Silverstone eleni, cymerodd dros 80 o dimau o bob cwr o’r byd ran mewn cystadleuaeth ar y we.

Gwaith dyfal ac ymroddiad Rasio Caerdydd a Rasio Annibynnol Caerdydd (Rasio Caerdydd Heb Yrwyr cynt) drwy gydol y flwyddyn hwylusodd eu llwyddiant ym mhob un o’r heriau dynamig a statig.

Cyflawnodd Rasio Caerdydd y gamp o ddod yn bedwerydd yn yr holl rasio dynamig aeth rhagddo ar y we gan efelychu amserau lapiau trwy fodelu ac ail-greu dynamig aml eu cyrff wedi’u seilio ar gwrs Silverstone. Gan gynnwys yr amser cyflymaf yn ras pad sgidio a dod yn ail yn y sbrint o 0.06 eiliad.

Cyflawnodd y tîm dipyn o lwyddiant yn yr heriau statig hefyd, lle gofynnwyd iddyn nhw gyfiawnhau eu dewisiadau a’u dulliau o ran dylunio, cyflwyno cynlluniau costio a gweithgynhyrchu a pharatoi achos busnes. Roedd hynny’n arbennig o galonogol achos mai myfyrwyr y drydedd flwyddyn arweiniodd y gwaith eleni (myfyrwyr y bedwaredd flwyddyn fyddai’n gwneud hynny fel arfer ar ôl cwblhau’r dylunio).

Daeth Rasio Annibynnol Caerdydd yn bumed yn nosbarth tasgau’r gyrru dynamig lle gofynnwyd i’r tîm lunio’r feddalwedd a’r offer synhwyro a rheoli ar gyfer cerbyd heb yrrwr. Gofynnwyd i’r tîm gwblhau nifer o heriau dynamig a statig ac fe ddaeth yn bedwerydd yn y barnu dylunio a’r efelychu.

Hoffai staff Ysgol Peirianneg gymryd y cyfle hwn i longyfarch myfyrwyr y ddau dîm am ganlyniadau rhagorol ddaeth yn sgîl llawer o waith dyfal mewn amgylchiadau anodd.

I fyfyrwyr yng Nghaerdydd, mae cystadleuaeth Formula Student wedi bod yn weithgaredd y gall pobl ymroddedig amryw feysydd gymryd rhan ynddo y tu allan i’r maes llafur drwy gydol y flwyddyn. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r medrau a’r wybodaeth sydd wedi’u meithrin yn ystod eu cyrsiau gradd mewn prosiect peirianneg go iawn.

Rhannu’r stori hon