Nod prosiect a arweinir gan ymchwil Prifysgol Caerdydd yw cynhyrchu ‘gweledigaeth a rennir’ ar addewid sero net y DU
9 Tachwedd 2020
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio prosiect a arweinir gan ymchwil i helpu i nodi camau cychwynnol brys - a strategaeth tymor hwy - i helpu i gyflawni targed uchelgeisiol y DU i gyrraedd sero net o ran allyriadau carbon erbyn 2050.
Bydd Cyflwyno Sero Net, dan arweiniad Grŵp Ymchwil Deall Risg Ysgol Seicoleg y Brifysgol, yn canolbwyntio ar rôl ymchwil yn yr her i drawsnewid y DU.
Bydd yn ceisio dod o hyd i'r ymchwil academaidd orau a'i defnyddio i ddarparu eglurder ar yr opsiynau ar gyfer cyflawni hyn - a nodi unrhyw ymchwil bellach sydd ei hangen.
Bydd y tîm yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r byd academaidd a diwydiant i gynhyrchu “gweledigaeth a rennir” ar yr hyn sy'n ofynnol yn y tymor byr (y 10 mlynedd nesaf) ac yn y tymor hwy (o 2030 ymlaen).
Yn y prosiect, a gomisiynwyd ac a ariannwyd gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), bydd y tîm yn edrych ar bob agwedd gan gynnwys ystyriaethau ariannol, y ffyrdd y gall ein systemau ynni a'n defnydd newid, a manteision gwahanol dechnolegau.
Bydd yn cynnwys cyfres o weithdai gydag academyddion blaenllaw yn y DU a rhanddeiliaid allweddol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Byddant yn canolbwyntio ar feysydd datgarboneiddio, galw am ynni, dal a symud carbon, a goblygiadau cymdeithasol ac economaidd sero net.
Dywedodd yr Athro Nick Pidgeon, Athro Seicoleg Amgylcheddol a Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Deall Risg: "Er mwyn cyflawni sero net mae'n rhaid i'r DU weithredu nawr oherwydd mae angen gostyngiadau cyflym mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y tymor byr er mwyn osgoi argyfwng hinsoddol.
“Mae cefnogaeth a fframweithiau academaidd yn hanfodol i ddarparu’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael i lywio’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gydag academyddion blaenllaw'r DU i grynhoi eu syniadau a'u hymchwil i gyfleu consensws i helpu i osgoi gwneud penderfyniadau heb ddibynnu ar dystiolaeth o'r fath.
"Gyda'r prosiect hwn rydym yn ceisio sicrhau bod Rhaglen Ynni a Datgarboneiddio UKRI yn cael y cyfle mwyaf posibl i lywio ac arwain ymateb penderfynwyr y DU i’r newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn defnyddio dull systemau gyfan ac yn creu gweledigaeth a rennir sy’n amlinellu naratif ar gyfer sero net yn y tymor byr, y degawd nesaf, ac ar gyfer y tymor hwy, o 2030 ymlaen
"Ein nod ar gyfer y prosiect yw rhoi'r dystiolaeth academaidd orau sydd ar gael i benderfynwyr sy'n ymwneud â sero net. Mae hyn er mwyn iddynt greu amgylchedd lle mae penderfyniadau cyflym a grymus yn y DU yn cael eu llywio gan yr ymchwil uwch ar liniaru newid yn yr hinsawdd."
Mae'r Sefydliad Ymchwil Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Leeds a'r ymgynghoriaeth ymchwil arloesi Cultivate Innovation yn bartneriaid cyflenwi.
Mae mwy o wybodaeth am y prosiect Cyflwyno Sero Net ar gael yma.