Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Safon Uwch yn cael cyfle i roi cynnig ar fywyd prifysgol

26 Hydref 2020

Teenage boy using laptop and doing homework - stock photo

Bydd darpar-gyfreithwyr ifanc o bob cefndir yn cael cyfle i brofi sut beth yw astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, diolch i fenter newydd.

Mae rhaglen Llwybrau at y Gyfraith Ymddiriedaeth Sutton yn dechrau fis Ionawr 2021 ar gyfer 40 o fyfyrwyr chweched dosbarth cymwys o Gaerdydd a'r ardal gyfagos. Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru i fod ynghlwm wrth y cynllun, sydd â'r nod o ddangos i fyfyrwyr galluog o gefndiroedd difreintiedig pa gyfleoedd all fod ar gael iddynt.

Gan weithio gyda Thîm Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol, bydd academyddion o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnal sesiynau ar-lein gyda'r grŵp, fydd yn rhoi blas iddynt o'r cynnwys allai fod yn eu darlithoedd ar lefel gradd. Bydd llysgenhadon myfyrwyr o'r Ysgol hefyd ar gael i fod yn fentoriaid i'r rheiny sydd ynghlwm, gan gynnig cymorth a chyngor un-i-un.

Dechreuodd y Brifysgol weithio gyntaf gydag Ymddiriedaeth Sutton yn 2019 ar ei rhaglen Ysgolion Haf flaenllaw'r DU. Ar gyfer y rhaglen Llwybrau at y Gyfraith, bydd Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chonsortia o bartneriaid llwyddiannus a hirsefydlog sy'n cynnwys sefydliadau megis Caerwysg, Rhydychen, YELl, Nottingham, Manceinion a Newcastle.

Yn ôl yr Athro Urfan Khaliq o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen a rhoi cyfle iddynt i weld sut beth yw gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Gobeithio y bydd y sesiynau'n rhoi trosolwg iddynt o fywyd prifysgol ac yn bwysicach fyth, ymwybyddiaeth o'r gyrfaoedd allai fod ar gael iddynt yn nes ymlaen".

Dywedodd Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth: "Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen Llwybrau at y Gyfraith, yr ydym yn gobeithio fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Gobeithio y bydd y fenter hon yn dangos i fyfyrwyr bod gyrfa yn y gyfraith yn opsiwn hyfyw a chyffrous iddynt."

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rhaglen erbyn 27 Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth, mynd i'r gwefan Sutton Trust.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cynnig hyblygrwydd a dewis yn ein rhaglenni, yn ogystal â datblygu llwybrau mynediad ychwanegol.