Ewch i’r prif gynnwys

Anfanteision cymhleth a hirdymor wedi'u hamlygu gan bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad

30 Mehefin 2020

Accident and emergency ward

Mae adroddiad mawr yn datgelu ffactorau cymhleth a hirdymor sy'n cyfrannu at yr effaith anghymesur y mae'r Coronafeirws yn ei chael ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig  Cymru.

Gwnaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd gadeirio'r is-grŵp o grŵp cynghori arbenigol Covid-19 du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford. Mae eu hadroddiad yn gwneud mwy na 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol y mae'n tynnu sylw atynt.

Dywedodd yr Athro Ogbonna: “Mae thema gyffredinol yn rhedeg drwy ein hymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn. Mae'n canolbwyntio ar hiliaeth ac anfanteision hirdymor a'r diffyg cynrychiolaeth du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn prosesau gwneud penderfyniadau".

"Mewn rhai ffyrdd mae pandemig y Coronafeirws yn datgelu goblygiadau diffyg camau gweithredu ar gydraddoldeb hiliol. Mae llawer o'r materion rydym wedi tynnu sylw atynt wedi cael eu nodi a'u trafod yn flaenorol, ond nid ydym wedi mynd i'r afael â nhw mewn unrhyw ffordd systematig a pharhaus."

Sefydlwyd y grŵp cynghori i edrych ar y rhesymau dros pam mae pobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu heffeithio'n andwyol gan y Coronafeirws. Mae'n cael ei gadeirio ar y cyd gan y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne ac mae ganddo ddau is-grŵp – ac mae un ohonynt wedi cael y dasg o archwilio'r ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Mae'r adroddiad yn datgelu nifer o ffactorau risg economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol allweddol, gan gynnwys y canlynol:

  • Cyfathrebu gwybodaeth iechyd a pha mor effeithiol yw
  • Materion diwylliannol mewn perthynas ag addasrwydd gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ar gyfer cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Ansicrwydd o ran incwm a chyflogaeth, sy'n cael ei brofi'n anghymesur gan gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Ansawdd gwael data ynghylch ethnigrwydd, sy'n atal dadansoddiad cywir
  • Gorboblogi tai ac amgylcheddau
  • Y baich ariannol a grëwyd gan statws mudo
  • Rôl hiliaeth strwythurol a systemig a'i hanfanteision.

Lansiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymchwiliad brys ym mis Ebrill er mwyn deall y rhesymau dros risgiau uwch y Coronafeirws ymhlith cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd: “Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Athro Ogbonna ac aelodau'r is-grŵp am eu gwaith cyflym a manwl a'u hargymhellion."

Yr Athro Ogbonna yw'r Athro Rheoli a Threfnu yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn torri ar draws meysydd astudiaethau sefydliadau, strategaethau, marchnata a rheoli adnoddau dynol.  Mae ei ddiddordebau ymchwil diweddar wedi bod ym meysydd diwylliant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol, ac mae ei waith wedi archwilio sefyllfa cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn y farchnad lafur. Ar hyn o bryd mae'n un o Ymddiriedolwyr Cyngor Hil Cymru, ac yn is-gadeirydd iddo.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.