Ewch i’r prif gynnwys

Mae gwyddonwyr hinsawdd yn teithio mwy mewn awyren nag ymchwilwyr eraill, yn ôl yr astudiaeth fyd-eang gyntaf

19 Hydref 2020

Stock image of plane flying into the sunset

Mae ymchwilwyr newid hinsawdd, yn enwedig athrawon prifysgol, yn teithio mwy mewn awyren nag ymchwilwyr eraill – ond mae’n fwy tebygol eu bod wedi cymryd camau i leihau neu wrthbwyso eu teithiau, yn ôl astudiaeth newydd.

Cynhaliwyd yr arolwg mawr, rhyngwladol o dros 1,400 o ymchwilwyr prifysgol gan Ganolfan Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol y DU (CAST), a gydlynir gan Brifysgol Caerdydd.

Trwy arbrawf dilynol gyda dros 350 o ymchwilwyr, daeth i’r amlwg fod rhoi gwybodaeth am effeithiau hedfan a chymorth ar gyfer polisïau yn y gweithle yn annog pobl i deithio llai mewn awyren.

Cyhoeddir yr astudiaeth ar raddfa fawr - y cyntaf o'i bath i arolygu faint y mae academyddion hinsawdd yn teithio ar gyfer cynadleddau, gwaith maes a chyfarfodydd – yn y cyfnodolyn Global Environmental Change.

Dywedodd Cyfarwyddwr CAST yr Athro Lorraine Whitmarsh, a arweiniodd yr astudiaeth, fod y canfyddiadau'n "annisgwyl" ond dywedodd ei fod hefyd yn awgrymu "nad yw gwybodaeth ar ei phen ei hun yn ddigon" i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang.

"Mae ein canfyddiadau'n tynnu sylw at y ffaith y gall gwyddonwyr hinsawdd, fel llawer o weithwyr proffesiynol eraill, ei chael hi'n anodd cydbwyso eu hymrwymiadau amgylcheddol â’u gofynion proffesiynol a phersonol cystadleuol ac nad yw'r byd academaidd ei hun yn gwneud digon i newid y diwylliant hwn," meddai.

"Yn bwysicaf oll, mae ein hymchwil yn dangos yr angen am bolisïau a ffyrdd o weithio i annog a galluogi teithio carbon isel a defnyddio dewisiadau rhithwir – rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn sgîl Covid-19.

"Mae cyfyngiadau ar deithio wedi golygu bod yn rhaid i fusnesau, gan gynnwys prifysgolion, ddisodli teithio gyda rhyngweithio rhithwir, fel cynadleddau ar-lein. Gall yr opsiynau rhithwir hyn fod yr un mor effeithiol â chyfarfodydd wyneb yn wyneb, ond am ffracsiwn y gost, yn ogystal â bod yn fwy hygyrch i'r rhai sydd ag ymrwymiadau gofalu."

Hedfan yw un o'r camau gweithredu mwyaf sy'n rhyddhau carbon a bu galwadau cynyddol o fewn a thu allan i'r gymuned ymchwil i wyddonwyr, ac yn enwedig ymchwilwyr hinsawdd, i wneud mwy i leihau eu teithiau mewn awyren fel nad yw eu neges hollbwysig am yr angen i leihau allyriadau hedfan yn cael ei thanseilio.

Canfu'r astudiaeth hon fod nifer "sylweddol" uwch o deithiau awyren ymhlith ymchwilwyr newid hinsawdd ar gyfer eu gwaith nag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill. Roedd y data'n dangos bod arbenigwyr hinsawdd yn hedfan ddwy neu dair gwaith y flwyddyn*, tra bod ymchwilwyr eraill yn hedfan ddwywaith y flwyddyn.

Mae arbenigwyr hinsawdd a chynaliadwyedd yn cynnal mwy o waith maes, ond hyd yn oed wrth ystyried hyn, roedd nifer eu teithiau rhyngwladol yn uwch o hyd. Amlygodd hefyd fod lefelau hedfan yn codi ochr yn ochr â lefel y swyddi.

Roedd ymchwilwyr hinsawdd yn adrodd mwy ynghylch eu hymwybyddiaeth a phryder am effaith hedfan ar y newid hinsoddol. Felly, roeddent yn fwy tebygol o wrthbwyso eu teithiau awyren, defnyddio dulliau teithio amgen neu osgoi teithio. Er enghraifft, dewisodd 29% o ymchwilwyr hinsoddol beidio â theithio i ddigwyddiad gwaith oherwydd ôl troed carbon y teithio, o'i gymharu â 5% o ymchwilwyr eraill.

Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod ffactorau ymarferol fel ymrwymiadau teuluol ac argaeledd opsiynau carbon isel yn bwysicach o ran rhagweld ymddygiad hedfan gwirioneddol gwyddonwyr.

"Mae'r rhai sydd â'r mwyaf o wybodaeth – athrawon prifysgol ar newid hinsoddol – yn cymryd mwy o deithiau awyren nag unrhyw grŵp arall. Mae ein canlyniadau'n awgrymu'n gryf nad yw gwybodaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i newid arferion teithio yn y gweithle," meddai'r Athro Whitmarsh.

Casglwyd y data ar gyfer ein hastudiaeth yn 2017 – ond ychydig iawn a newidiodd yn y byd academaidd tan y pandemig byd-eang eleni. Mae'n hanfodol bod ffyrdd newydd o weithio a fabwysiadwyd yn ystod y cyfnod clo yn cael eu defnyddio yn y tymor hir, nid mewn prifysgolion yn unig ond mewn llawer o sefydliadau a busnesau eraill sydd wedi tueddu i adael ôl-troed carbon uchel oherwydd teithio.

Professor Lorraine Whitmarsh

Dywedodd Kevin Anderson, athro ynni a newid yn yr hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion a chyn-gyfarwyddwr Canolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil Newid Hinsawdd, ei fod yn ddarn "anghyfforddus" i’w ddarllen.

"Rhaid i'r papur hwn ysgogi newid cyflym. Mae angen inni edrych ar ein harferion yn fanwl, myfyrio ar ein hymchwil, a gwneud newid cyflym i lunio byd academaidd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Efallai y byddai llywodraethau, busnesau a’r gymdeithas sifil ehangach wedyn yn cymryd mwy o sylw o'n hymchwil a'n casgliadau," dywedodd yr Athro Anderson, nad oedd yn rhan o'r ymchwil hon.

Mae'r canfyddiadau'n cael eu rhyddhau wrth i Ganolfan CAST lansio ei Siarter Cynaliadwyedd heddiw – ei hymrwymiad i ddiwylliant ymchwil carbon isel.

Mae'r siarter yn ceisio cydnabod bod gan ymchwilwyr newid hinsawdd gyfrifoldeb penodol i wynebu eu heffaith amgylcheddol a chwilio am atebion trawsnewidiol i newid yn yr hinsawdd a materion eraill. Er enghraifft, gall cynadleddau ar-lein a gweithio gartref fod yn well ar gyfer cydbwysedd bywyd-gwaith, caniatáu cyfranogiad ehangach, a thorri costau.

Mae'r siarter yn ceisio cymryd camau uniongyrchol, ond hefyd i eirioli dros newid ehangach, mewn pedwar maes pwysig: bwyd, teithio, defnydd, a gwresogi/oeri.

Mae'r ymrwymiadau'n cynnwys:

  • Disodli teithio gyda dewisiadau amgen rhithwir a defnyddio moddau carbon isel (h.y. osgoi teithio mewn awyren) lle bo’n rhaid teithio;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros ddewisiadau bwyd drwy sicrhau bod yr holl arlwy yn llysieuol neu'n figan a lleihau gwastraff bwyd;
  • Lleihau'r defnydd o adnoddau;
  • Gwneud dewisiadau ynni isel mewn swyddfeydd a lleoliadau cynadleddau;
  • Mae sicrhau eiriolaeth ar gyfer ffyrdd o fyw ac arferion carbon isel yn ganolog i weithgareddau ymchwilwyr.

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y Siarter yma.

*Diwygiwyd y ffigwr (9 Tachwedd 2020) ar ôl i newid gael ei wneud i bapur y cyfnodolyn. Nid yw casgliadau cyffredinol yr ymchwil wedi newid.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael effaith sylweddol ar Gymru a'r DU, mewn meysydd sy'n cynnwys cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.